Arwyddion priffordd wedi’u brandio

Nod y prosiect yw codi chwe arwydd priffordd wedi'u brandio yn hysbysu ymwelwyr sy'n defnyddio prif ffyrdd eu bod yn teithio drwy Fiosffer Dyfi UNESCO. Mae astudiaeth ddichonoldeb a dylunio wedi cydgysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod caniatâd, lleoliadau penodol a argymhellir ar gyfer arwyddion o'r fath, costau amcangyfrifedig ac er mwyn amlinellu'r camau gofynnol. Nod y cais hwn yw gallu codi arwyddion dwyieithog penodedig ar chwech o'r wyth safle a nodwyd.

Bydd arwyddion o'r fath yn codi proffil y Biosffer â phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan ysgogi diddordeb y gellir ei fodloni drwy baneli dehongli, gwybodaeth ar y we a chan staff busnesau twristiaeth. Nid yw'r cais hwn yn cynnwys arian i dalu am y gwaith dilynol hwn, ond gwneir cais am hynny drwy Gynllun 'Great Place' Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae'r proffil uwch yn debygol o arwain at arosiadau estynedig, mwy o wariant gan ymwelwyr, ymwelwyr yn dychwelyd a chyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig, felly mae'r prosiect hwn yn brosiect datblygu economaidd yn seiliedig ar naws am le. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£23,968
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Andy Rowland
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts