Astudiaeth Adeiladau Gwag yng Nghonwy Wledig

Bydd y Strategaeth Twf Economaidd a fabwysiadwyd yn ddiweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer y cyfnod 2017 - 2027 yn canolbwyntio ar 5 maes gwaith penodol. Un o’r meysydd blaenoriaeth hyn fydd creu unedau busnes ac eiddo i gefnogi a denu busnesau newydd i’r sir. 

Ochr yn ochr â’r strategaeth economaidd, ac yn ôl adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae diwydiant bwyd a diod Cymru’n gwneud cyfraniad o dros £1 biliwn i economi’r wlad. Mae hyn yn tanlinellu pa mor bwysig yw cefnogi busnesau bach ym mhob ffordd bosibl, gan gynnwys cymell datblygiadau, adleoli i eiddo mwy a buddsoddi mewn seilwaith priodol. 

Er mwyn cefnogi a chynnig cyfleoedd newydd i fusnesau, gallai’r awdurdod fuddsoddi amser i ymchwilio i adeiladau gwag, neu adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial. 

Felly bydd hwn yn gais i gynnal astudiaeth fechan i asesu pa mor addas yw lleoliadau, yn ogystal â safon a photensial adeiladau gwag Bwrdeistref Sirol Conwy.  

Bydd dau gam i’r gwaith, a’r gobaith hirdymor yw y bydd hyn yn arwain at gais i Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, am gymorth ariannol dan fesur 7.7. Bwriad y cyllid hwn yw darparu “cefnogaeth i fuddsoddiadau sy’n targedu adleoli gweithgarwch a throsi adeiladau neu gyfleusterau eraill sydd wedi eu lleoli mewn anheddiad gwledig neu’n agos atynt, gyda’r nod o wella ansawdd bywyd neu wella perfformiad amgylcheddol yr anheddiad”. Nid yw’r astudiaeth ddau gam hon yn cynnwys cyflwyno cais i’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig. 

Bydd y cam cyntaf yn cynnwys datblygu holiadur electronig (Survey Monkey) ac annog trigolion y sir i roi gwybod i ni ble mae eiddo gwag wedi cael eu lleoli. 

Bydd yr ail gam yn cynnwys ysgrifennu adroddiad a fydd yn tynnu sylw at bob adeilad masnachol a chymunedol yn ardaloedd gwledig y sir y bydd y cyhoedd wedi rhoi gwybod i ni amdanynt, eu defnydd presennol, ac os ydynt yn wag, y posibilrwydd o fuddsoddi ynddynt. 

Mae cam cyntaf y prosiect yn gymharol syml, er y byddai angen amser ac ymdrech i sicrhau nifer iach o ymatebwyr. 

Mae angen i’r ail gam (yr adroddiad) sicrhau na fyddai perchennog preifat unrhyw adeiladau’n cael mantais annheg. Felly, byddai angen i’r adroddiad fod yn gymharol generig, yn ogystal ag yn llawn gwybodaeth. Byddai’r adroddiad yn rhoi manylion am leoliadau pob adeilad a nodir, a’u defnydd presennol. Byddai’r adroddiad hefyd yn rhoi disgrifiad byr o’u cyflwr presennol. Byddai hefyd yn nodi pa mor bosibl fyddai datblygu pob adeilad. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£2950.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Conwy
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rhys Evans
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts