Astudiaeth Adfer Eryrod Cynffonwen i Gymru

Astudiaeth i asesu dichonoldeb ailsefydlu poblogaeth fridio o Eryrod Cynffonwen yn Sir Fynwy, Casnewydd, ac arfordir De Cymru, gan adfer yr hyn a fu unwaith yn rhan o fioamrywiaeth, diwylliant a threftadaeth Cymru cyn iddynt ddiflannu ar ddechrau'r 19eg Ganrif. Mae ymchwil ddiweddar wedi nodi Eryrod Cynffonwen fel elfen goll allweddol o ecosystemau morol a dŵr croyw yng Nghymru.

Os yw’r astudiaeth hon yn cadarnhau’r gwaith hyd yma i ddangos bod y rhanbarth yn hyfyw i adfer Eryrod Cynffonwen, bydd ymdrechion ehangach yn dod â maint o fuddion rhanbarthol, gan gynnwys rhaglenni addysg cymunedol a rhanddeiliaid dwyieithog, gan ddatblygu profiadau newydd i amrywio darpariaethau twristiaeth (h.y. bwydo, arsylwi, llwyfannau gwybodaeth) ac i gefnogi ac ymestyn diddordebau twristiaeth rhanbarthol drwy’r rhywogaeth syfrdanol hon (h.y. gwylio adar, cerdded ac ati), gan helpu i hybu’r economi leol.

Mae ymdrechion Ewropeaidd i adfer Eryrod Cynffonwen wedi dangos y manteision ehangach y mae'r rhywogaeth hon yn eu cynnig i gadwraeth ranbarthol, ecosystemau a thwristiaeth. Byddai rhaglen adfer Eryrod Cynffonwen yng Nghymru nid yn unig o bwysigrwydd i Gymru, ond y DU ac Ewrop o ran gwarchod y rhywogaeth hon. Mae Dyffryn Gwy ac Aber Afon Hafren yn cael eu cydnabod fel ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer bywyd gwyllt ac mae astudiaethau rhagarweiniol yn dangos bod y rhanbarth yn cefnogi digonedd o gynefin bridio addas ar gyfer Eryrod Cynffonwen (tua 3,552.7 cilomedr²) - gyda 41% o gynefinoedd addas wedi'u lleoli yn Sir Fynwy ac 16.3% yng Nghasnewydd. Byddai ailgyflwyno Eryrod Cynffonwen i'r rhanbarthau hyn yn helpu i arddangos a chyfrannu at safbwynt blaengar Cymru tuag at fioamrywiaeth ac adfer ecosystemau.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£14168.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Mark Lloyd
Rhif Ffôn:
07872696154
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://monmouthshire.biz/rural-innovation/projects/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts