Astudiaeth ddichonoldeb Lido’r Fenni

Prif nod Grŵp y Lido yw dod â phwll awyr agored wedi'i gynhesu yn ôl i Barc Bailey, Y Fenni. Mae'r cais hwn ar gyfer arian i ariannu astudiaeth ddichonoldeb gyda'r nod o sicrhau bod y pwll nofio’n hyfyw ac yn gynaliadwy.  Aeth y pwll nofio gwreiddiol, a agorodd ym 1939, yn segur yn y 1990au a chafodd ei dynnu i lawr yn 2006. Y gobaith yw y bydd Lido newydd y Fenni yn manteisio ar yr atgyfodiad enfawr diweddar o ddiddordeb mewn nofio yn yr awyr agored a nofio gwyllt. 

Mae nofio yn ymarfer addas i bobl o bob oed a lefel ffitrwydd, ac mae'r manteision hefyd yn ymestyn i iechyd meddwl. Bydd pobl hŷn ac unrhyw un sydd â phroblemau iechyd corfforol/meddyliol yn elwa o'r pwll nofio newydd. I lawer o nofwyr, mae elfen gymdeithasol bwysig i nofio – mae'n ffordd o fynd i'r afael ag unigrwydd, dirywiad gwybyddol sy'n gysylltiedig ag oedran, iselder a phryder. Bydd yn rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc wneud ffrindiau a chael hwyl yn dysgu nofio.  Bydd hefyd yn apelio at athletwyr sydd angen hyfforddi ar gyfer cystadlaethau a digwyddiadau. 

Mae hwn yn brosiect cyffrous ac arloesol ar gyfer rhanbarth Dyffryn Wysg. Er bod llawer o lidos ledled y DU, mae Cymru'n brin ohonynt. Dim ond Lido-Ponty sydd wedi dychwelyd i ddefnydd yn ddiweddar. Bydd Lido'r Fenni yn ased diwylliannol a hamdden, a allai gynnig profiad hamdden unigryw, nid yn unig i bobl Sir Fynwy ond i Dde-ddwyrain Cymru gyfan a thu hwnt.  

Bydd y Lido’n dod â manteision economaidd sylweddol i'r ardal o ran contractau'r gadwyn gyflenwi a mwy o ymwelwyr i fusnesau lletygarwch a manwerthu lleol.  Mae'n debygol y bydd nifer o swyddi'n cael eu creu yn y pwll nofio gan gynnwys tîm rheoli, gwerthwyr tocynnau, achubwyr bywyd, staff caffi a glanhawyr.  Gallai rhai o'r rhain fod yn rolau gwirfoddol neu brofiad gwaith.  Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei rannu, a rhagwelir y bydd o fudd mawr i unigolion a grwpiau mewn meysydd eraill sydd â dyheadau tebyg o ran cyfleusterau nofio awyr agored. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£20000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Mark Lloyd
Rhif Ffôn:
07872696154
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://monmouthshire.biz/?post_type=project&p=199621&preview=true

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts