Mae'r prosiect ar gyfer astudiaeth ymchwil i echdynnu hemocyanin o Ewynnau Moch a'i gymharu hemocyanin sy'n cael ei ddefnyddio mewn cynnyrch pharma. Datblygu cynllun hefyd ar gyfer echdynnu a thrin Ewynnau Moch i bysgotwyr sy'n dal yr Ewynnau fel sgl-ddaliad. Bydd Mikota yn cydweithio, ar gyfer y prosiect hwn ac yn barhaus, gyda rhanddeiliaid lleol, pysgodfeydd a physgotwyr i liniaru'r effaith negyddol y mae'r Ewynnau Moch wedi'i gael ar blymwyr Wystrys a Chregyn Bylchog yn ogystal ag Ardaloedd o Gadwraeth Arbennig. Y cynllun yw datblygu protocol a methodoleg sylfaenol hefyd ar gyfer cynaeafu a thrin i blymwyr a physgotwyr lleol eu defnyddio pan fyddant yn cynaeafu ewynnau moch fel cynnyrch sgl-ddaliad.
Rhan o'r ymgyrch fydd ceisio gwella effeithiolrwydd, lleihau costau a risgiau i blymwyr sy'n peidio chasglu Wystrys a Chregyn Bylchog sydd ag ewynnau arnynt, gan ei fod yn anghyfreithlon i'w symud o fewn y dr, neu eu dychwelyd i'r mr unwaith y maent wedi eu symud ohono. Trwy gynnig ffordd i blymwyr a physgotwyr gael gwared" ar unrhyw ewynnau y maent yn eu dal neu eu cynaeafu bydd yn golygu y gallant gynaeafu anifeiliaid heb boeni am yr effaith ar eu busnes o gost gwaredu yr ewynnau moch yn fiolegol . Gallai yr agwedd yma ohono ei hun ar y prosiect wella effeithiolrwydd plymwyr 10 gwaith gan leihau costau a chynyddu elw. Effaith hyn yw twf economaidd y busnesau hyn a chreu rhagor o swyddi o bosib.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£75630.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 2
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Alex Mühlhölzl
- Rhif Ffôn:
-
07876 136446
- Cyfeiriad e-bost:
- alex@mikota.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.mikota.uk
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts