Astudiaeth Ddichonolrwydd: Capel Mair a’i Ffynnon hynafol ym Margam

Mae adfail hanesyddol Capel Mair, eglwys fechan o’r 14eg ganrif, a adeiladwyd gan fynachod Abaty Margam, ar lethrau bryn Graig Fawr y tu ôl i Barc Margam, yn ardal o bwysigrwydd hanesyddol enfawr, ond ychydig sy’n wybyddus i’r bobl leol, ac nid yw’r rhan fwyaf o’r twristiaid sy’n dod i’r parc yn ymweld â’r safle.

Mae dyfodol yr eglwys fach hon a’r ffynnon hynafol a ganfuwyd yn ddiweddar ar yr un safle, mewn perygl o gael ei dinistrio gan fandaliaid, oherwydd fod pobl yn ymweld mor anfynych â’r safle. Rhaid i Gyfeillion Parc Margam glirio sbwriel a phren a losgwyd, gweddillion tanau, yn gyson o’r safle, sydd nid yn unig yn peryglu’r strwythurau, ond hefyd y goedwig a’r bywyd gwyllt cyfagos.

Byddai ysgolion a cholegau lleol yn cael eu hannog yn weithredol i gymryd rhan o ran prosiectau hanes lleol a natur, gyda’r nod yn y pen draw o ddatblygu deunydd cwricwlwm i ysgolion am bwysigrwydd y safle’n lleol. Drwy addysgu pobl ifanc y gobaith yw meithrin arbenigwyr newydd ym maes hanes, archeoleg a natur. Fe allai hyn hefyd o bosib annog mwy o wirfoddolwyr i gymryd yr awenau ym Margam a bydd yn rhoi cyfle i Gyfeillion Parc Margam hybu cyfleoedd gwirfoddoli.

Ar hyn o bryd mae’r ardal yn colli ymweliadau gan dwristiaid a grwpiau diddordeb penodol. Byddai’r Ffynnon, ar ôl ei datgladdu, yn annog ymwelwyr sy’n gwneud pererindod grefyddol i ymweld â rhywbeth na fu’n weithredol ers y ddeuddegfed ganrif, a byddai Astudiaeth Ddichonolrwydd gadarnhaol hefyd yn galluogi Cyfeillion Parc Margam i allu ceisio mwy o gyfleoedd cyllido er mwyn datblygu’r safle a sicrhau cynaliadwyedd ei ddyfodol.

Gobaith Cyfeillion Parc Margam yw y bydd yr astudiaeth yn dangos sut y gellir datblygu’r safle drwy archwilio cadwraeth drwy gynnig a ganolir ar addysg ynghylch ei bwysigrwydd treftadaeth a diwylliant. Pe gellid cyflawni’r datblygiad arloesol ‘llawr gwlad’ dwyieithog, archeolegol ac addysgol dan arweiniad y gymuned, a fframiwyd o gwmpas y Ffynnon a Chapel Mair, yna byddai’r safle’n weladwy a phrysur, a chanlyniad hynny fyddai llai o gymhelliant i fandaliaid yn ogystal â mwy o wybodaeth gyffredinol am bwysigrwydd hanesyddol y safle. 

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

PDF icon
Saesneg yn unig

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£12648.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Tony Barrett
Rhif Ffôn:
07788207836
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.friendsofmargampark.co.uk/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts