Er bod llawer o waith rhagorol wedi'i wneud gan y GGLl, sydd wedi cefnogi 26 o brosiectau hyd yma gan neilltuo £444,535 i brosiectau Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) cymunedau gwledig Abertawe, teimlir y gallai’r wardiau gwledig gogleddol fod wedi elwa mwy o’r cyllid a neilltuwyd hyd yma.
Gyda hyn mewn golwg, cynhaliodd y GGLl ymarfer tendro i geisio ymgynghorydd addas i weithio gyda swyddogion Cyngor Abertawe a chymunedau wardiau gwledig Pontarddulais, Mawr, Llangyfelach a Phen-clawdd i gynhyrchu astudiaeth dichonoldeb ar gyfer pob ward a fydd yn ei alluogi i gael llwyfan i wneud cais am gyllid yn y dyfodol. Bydd yn rhaid i'r astudiaethau dichonoldeb ar gyfer pob ward fod yn unol â nodau ac amcanion Strategaeth Datblygu Lleol Cyngor Abertawe a bydd rhaid iddynt ymgorffori’n gweledigaeth Un Blaned.
Bwriedir i’r ymgynghorydd wneud y canlynol:
- Gweithio gyda DASA a’r cyngor cymuned neu’r grŵp cymunedol cysylltiedig ar gyfer pob ardal (fel y cleient)
- Ymgysylltu â'r gymuned i nodi a thrafod cyfleoedd datblygu posib
- Cynhyrchu pedair astudiaeth dichonoldeb – un ar gyfer pob ardal
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£40000.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Abertawe
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 2
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Victoria Thomson
- Rhif Ffôn:
-
01792636992
- Cyfeiriad e-bost:
- rdpleader@swansea.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts