Cynal awdit o holl swyddi amaethyddol a rheolaeth tir yng Nghonwy wledig er mwyn adnabod unrhyw wendidau neu broblemau gyda recriwtio gweithlu.
Bydd yr awdit yn ymgysylltu gyda nifer o ran-ddeiliaid, sefydliadau addysgiadol, darparwyr hyfforddiant, busnesau a darpar gyflogwyr er mwyn archwylio a gweld pa mor iach neu fregus yw’r sefyllfa yng Nghonwy wledig o geiso cael swyddi, neu geisio cael staff a gweld os oes yna gor-alw neu ddiffyg galw ar gyfer rhai swyddi a sgiliau.
Bydd grwpiau niferus yn elwa o’r prosiect yma gan gynnwys sefydliadau addysgiadol, darparwyr hyfforddiant (ffurfiol ac anffurfiol), diwydiannau, busnesau ac unigolion sydd a, weithio mewn sectorau a diwydiannau gwledig.
Bydd yr adroddiad yn adnabod ardaloedd a diwydiannau ble mae angen buddsoddi mwy ar adnoddau er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol fel bod gan y gweithlu yng Nghonwy y cyfleoedd i ddatblygu sgiliau gweithiol er mwyn cryfhau a chefnogi’r diwydianau lleol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£4,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Cydweithio
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 2
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Rhys Evans
- Rhif Ffôn:
-
01492 576671
- Cyfeiriad e-bost:
- Rhys.evans@conwy.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts