Bica Byw

Bydd prosiect Bica Byw yn macsimeiddio popeth sydd gab Llangrannog i gynnig trwy ymgysylltu â'r gymuned leol i dreialu a datblygu syniadau newydd a chyffrous.

Nod ‘Bica Byw’ yw creu cymuned gynaliadwy yn Llangrannog, gan ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol a gwneud y mwyaf o’r asedau naturiol, hanesyddol a diwylliannol.

Bydd treialu nifer o syniadau yn eu galluogi i ymgysylltu, cynyddu cynhwysedd a chydweithio i gydnabod a datrys materion cymunedol, a threialu cyfleoedd. Y nod yw y bydd ‘Bica Byw’ yn cyfuno technoleg flaengar â phrofiadau go iawn, i ymgysylltu a datblygu.

Bydd y prosiect yn penodi Animeiddiwr Cymdeithasol i ymgysylltu ar amrywiaeth o themâu a gweithgareddau gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cymunedol i edrych ar hyfywedd Capel Crannog yn y dyfodol, cynnal gweithdai digidol, treialu gêm ddigidol i blant, darparu mentora i wirfoddolwyr i gynyddu'r cynhwysedd i ddatblygu mentrau cymdeithasol a chryfhau eu sgiliau, gan sicrhau cynaliadwyedd a pharhad gweithgaredd lleol, datblygu mentrau sy'n darparu gwell mynediad i'r amgylchedd naturiol ac yn creu cymuned gryfach a mwy rhyngweithiol ac yn cynnal gweithdai i sefydliadau, cymdeithasau ac unigolion ddod ynghyd i greu un darn o waith celf i ddathlu chwedlau, hanes a Llangrannog heddiw.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£52,930
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts