From Black to Green

Nod y prosiect yw creu hwb cymunedol amlochrog, gan gyflwyno amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau a fydd yn cyflawni canlyniadau iechyd a lles, datblygiad economaidd a chwaraeon. Bydd yr hwb cymunedol yn gweithio gyda phartneriaid megis Bwrdd Iechyd PABM ar Ganolfan Gofal Sylfaenol leol, yn ogystal Choleg Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe, i gyflwyno rhaglen o gyfleoedd yn ogystal sesiynau iechyd a lles fel rhan or cynllun rhagnodi cymdeithasol. Ar hyn o bryd, ceisir arian i lunio astudiaeth dichonoldeb ffurfiol a phroffesiynol i gasglur data craidd ar ymchwil ynghyd ar y cysyniad, cyfleu ei hyfywedd a phennur achos busnes. Bydd astudiaeth dichonoldeb yn archwilio pa gyfleusterau sydd ar gael ar hyn o bryd a ble maer bylchau.

Ar y cam hwn, mae’r prosiect yn eang iawn yn fwriadol oherwydd natur yr hwb cymunedol a’r awydd i ddiwallu angen cymunedol. Serch hynny, cafwyd ymdrechion i ganolbwyntio ar ragnodi cymdeithasol – gweithio’n agos gyda’r feddygfa leol a gwasanaethau PABM fel bod pobl mewn perygl o afiechyd corfforol a meddyliol megis clefyd y galon ac iselder, lle y bo’n briodol, yn gallu cael eu cyfeirio i weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon yn hytrach na meddyginiaeth. Yn ogystal, bydd cyflwyno astudiaeth dichonoldeb yn helpu i ganolbwyntio ymhellach ar ganfod yr hyn sy’n ddichonadwy neu beidio. 
Bydd yr hwb cymunedol cynlluniedig yn cynnig cyfleoedd gwirfoddol i’r rhai sydd bellaf o’r farchnad swyddi, fel llwybr i gyflogaeth, ond hefyd i’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd cymdeithasol fel dull i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl neu unigedd. Bydd hefyd yn darparu lle ar gyfer busnesau newydd a’r rhai sydd am ehangu, yn ogystal â chynnwys caffi cymunedol sy’n cynnig prydau iach mewn cymuned lle nad ydynt ar gael.

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£4,800
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Jeffrey Davies
Rhif Ffôn:
07812 086205
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts