BLWYDDYN Y CHWEDLAU A’R MÔR

Yn cynnig gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio difyr yn ymwneud â Blwyddyn Chwedlau a’r Môr Croeso Cymru.

Roedd y sesiynau hyn ar gyfer pawb sydd ynghlwm wrth y diwydiant twristiaeth, boed yn fusnesau neu’n grwpiau cymunedol neu’n genhadon, neu sydd â diddordeb mewn datblygu digwyddiadau neu weithgareddau newydd.

Cynhaliwyd digwyddiad rhwydweithio ym Mragdy Tomos Lilford. Roedd croeso i’r mynychwyr gael taith o amgylch y bragdy a chlywed sut mae chwedlau lleol wedi ysbrydoli eu diodydd a’u henwau. 

Cafwyd sgwrs hefyd gan JAM JAR PR a’r flogrwaig Cathryn Scott o ‘Cardiff Mummy Says’ ynghylch pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol wrth hyrwyddo digwyddiadau a chreu digwyddiadau difyr ar gyfer y farchnad deuluol. 

Daeth y sesiwn rwydweithio i ben gyda chwis cyfryngau cymdeithasol. Ffurfiwyd cadwyni cyflenwi newydd ac esgorwyd ar syniadau newydd ar gyfer digwyddiadau.

Roedd cyfle arall wedyn i glywed mwy am chwedlau lleol a’r môr.  Roedd hyn ar ffurf taith dywys yn defnyddio App Hanesion y Fro, y gellir ei lawrlwytho am ddim, ac sy’n defnyddio GPS i rannu hanesion lleol ar lwybrau’r Fro.  Cafwyd hwyl yn crwydro Dwnrhefn a dysgu am hanes Matt Llaw Haearn.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£652
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Bro Morgannwg
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Nicola Sumner-Smith
Rhif Ffôn:
01446704707
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts