Brand Digidol a Chynnyrch Digidol

Pedwar prif nod ac amcan y sefydliad yw gwella mynediad a chysylltiadau i'r dref ac o amgylch y dref, hyrwyddo a gwella'r hyn a gynigir yn y dref, datblygu cymuned fusnes gryfach â chymorth gwerthfawr ac atgyfnerthu cydberthnasau a chyfathrebu rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Er mwyn sicrhau y caiff y prosiectau gorau posibl eu datblygu, ffurfiolwyd grwpiau thema arbenigol, sy'n cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid. Bydd cynnig 'Aberystwyth Ddigidol' yn darparu clwstwr cysylltiedig o gynhyrchion digidol arloesol a fydd yn cynnwys datblygu brand cyrchfan newydd i Aberystwyth. Bydd hyn yn gydnaws â Brand Cymru o ran logos, cymeriadau, diagraffiau a lliwiau a bydd yn ychwanegu gwerth at brofiad ymwelwyr ac yn helpu i annog twf economaidd. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£48,976
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Matthew Newbold
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts