Bryngaer Pen Dinas: Archwilior Arfordir Celtaidd

Pwrpas Astudiaeth Dichonoldeb Archwilio'r Arfordir Celtaidd gan Fforwm Cymunedol Penparcau oedd ymchwilio i hyfywedd nifer o elfennau a fyddai'n cael effeithiau economaidd, diwylliannol, addysgol ac amgylcheddol cadarnhaol ar y rhanbarth, y gymuned a'i hunaniaeth ym Mïosffer Dyfi.

Y nod oedd dathlu ac amlygu Pen Dinas fel safle pwysig o werth hanesyddol enfawr i'n cymuned uniongyrchol a'r ardal ehangach. Canolbwyntiodd y prosiect ar greu a datblygu strwythurau a mentrau sy'n gwella ac yn darparu gwell mynediad i'r amgylchedd naturiol ac adeiledig lleol. Ynghyd â hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer gweithrediadau cydweithredu ar y cyd sy'n gysylltiedig â'r dirwedd naturiol mewn ardal Biosffer a, darparu dulliau amgen o gyflwyno gwybodaeth i dwristiaid yn yr ardal.

O gynnal astudiaeth ddichonoldeb ac arolwg geoffisegol o'r safle, mae wedi cadarnhau bod twmpath isel ar ben y bryn yng nghryg crwn o'r Oes Efydd. Safle bedd yw hwn, lle byddai gweddillion corfflosgiad ffigur pwysig wedi cael eu claddu dros 3500 o flynyddoedd yn ôl.

Bydd canlyniadau'r prosiect o ddiddordeb addysgol. Oherwydd agosrwydd y warchodfa at ysgolion lleol a'r Brifysgol, mae'n gwneud safle lleol diddorol i fyfyrwyr. Ar ôl cwblhau'r prosiect mae RCAHMW wedi nodi y byddent yn barod i gynnal arolwg topograffig manwl o fryngaer Pen Dinas mewn cysylltiad ag unrhyw brosiect a arweinir gan y gymuned sy'n ymwneud â'r Cofadail Cofrestredig yn y dyfodol.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£17,515
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynnal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts