Buddsoddiad Prosesu Cig Moch Edwards o Gonwy

Prynu cyfarpar tafellu cig moch newydd i fanteisio ar y cyfle a nodwyd i lenwi bwlch sylweddol yn y farchnad o fewn y sail cwsmeriaid craidd sy'n cwmpasu 90% o holl fanwerthwyr lluosog Cymru bellach. Rydym yn credu'n gryf y gallwn gynyddu ein gwerthiant o gig moch Edwards o Gonwy o 2.5 tunnell yr wythnos i 18 tunnell yr wythnos dros y pum mlynedd nesaf, gan ailadrodd yr un math o gynnydd rydym wedi'i gyflawni yn ein categorïau selsig a byrgyrs (cynyddu gwerthiant cig eidion ugain gwaith drosodd mewn pedair blynedd).

Mae'r broses gynhyrchu gyfredol yn ddwys iawn o ran llafur, yn aneffeithiol, ac mae'n gynyddol anodd cynnal ansawdd a chadw gwastraff yn isel. O ganlyniad, nid ydym yn gystadleuol, mae lefelau cynhyrchiant yn aros fel ag y maent ac nid ydym yn gweld arwyddion o dwf. Bydd y cyfarpar newydd hwn yn cynyddu capasiti, yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau gwastraff bwyd a phecynnu a lleihau costau.

Ar yr un pryd bydd yn ein galluogi ni i gynhyrchu cynhyrchion newydd sy'n diwallu'r bwlch yn y farchnad i ddefnyddwyr a nodwyd gennym drwy waith ymchwil. O ganlyniad, byddwn yn gallu cystadlu'n well o ran prisiau i ddiogelu a datblygu'r busnes cyfredol, a lansio mathau newydd o gynhyrchion o fewn ein sail cwsmeriaid cyfredol eang. Byddwn yn gallu ennill busnes cwsmeriaid newydd hefyd mewn sectorau newydd fel manwerthu ac allforio.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£150,000
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
Ardal:
Conwy
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Simon James
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.weareedwards.co.uk/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts