Busnesau Gwyrdd

Nod y prosiect yw hybu busnesau a datblygiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot a hyrwyddo busnesau gwyrdd arloesol drwy ddefnyddio a gwellan treftadaeth naturiol yn briodol. Bwriedir ir prosiect hwn roi cynllun arloesol ar waith er mwyn helpu i ddatblygu arfer dan genedlaethol o ran  cynnig dull strategol o ddigolledu bioamrywiaeth. Y nod yw hybu busnesau a datblygiadau ac, o ganlyniad, buddsoddiad yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy leihaur baich ar fuddsoddwyr gan hefyd ddatblygu busnesau gwyrdd newydd a fyddain sicrhau buddion i dreftadaeth naturiol Castell-nedd Port Talbot a thirfeddianwyr a thrigolion lleol drwyr fwrdeistref sirol. 

Bydd y prosiect: 

  • yn annog tirfeddianwyr a chymunedau lleol i arallgyfeirio o ran defnyddior tir ac o ran eu busnesau a mynd ati i ddatblygu busnes gwyrdd newydd gan ddarparu safleoedd newydd ar gyfer cynefinoedd bioamrywiaeth i wrthbwysor hyn a gaiff ei golli o ganlyniad i ddatblygiadau
  • datblygu dulliau strategol o ddod o hyd i leoliadau addas ar gyfer darpariaethau a fydd yn parhau i hybu a gwellan treftadaeth naturiol ac yn ffordd o ddigolledu syn cynnig mwy o werth o safbwynt buddsoddi mewn datblygiadau a swyddogaethau ecolegol
  • annog a hyrwyddor gwaith o wella a datblygu mannau gwyrdd agored mwy naturiol er mwyn i bobl leol fedru mwynhaur dreftadaeth naturiol 
  • pennu manylebau ar gyfer creu/adfer neu wella cynefin tir 
  • gweithio tuag at ddangos dulliau y gellid eu datblygun arfer da Rhagor o fanylion: 

Y cam cyntaf fydd datblygu strategaeth gan ddefnyddior data sydd ar gael, gan gynnwys: cofnodion presennol, mapiau cynefinoedd; mapiau cysylltedd Castell-nedd Port Talbot a mapiau cynefinoedd blaenoriaeth Grwpiau Ecosystem Cymru; ynghyd   data a gafwyd yn sgil asesiad pecyn cymorth mannau gwyrdd naturiol hygyrch Castell-nedd Port Talbot. Bydd y strategaeth yn ystyried nodi a thargedu safleoedd lle y gellir gwella, creu ac adfer cynefinoedd yn lleol. Bydd hyn yn canolbwyntion bennaf ar gynefinoedd neu gynefinoedd syn cynnal rhywogaethau syn wynebu anawsteraun aml oherwydd gwaith datblygu. 

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae ymlusgiaid yn aml yn cyfyngu ar waith datblygu a, gan hynny, caiff y rhain eu hystyried gyntaf fel r hn or strategaeth. Bydd y gwaith o greu cynefinoedd i ymlusgiaid hefyd yn cyfrannu at y nod o ddatblygu cynefinoedd blaenoriaeth; fel gwlypdiroedd, gwrychoedd a rhostiroedd.  Caiff dulliau newydd eu treialu mewn perthynas thargedu lleoliadau i ddigolledu cynefinoedd ymlusgiaid a chaiff y rhain eu hehangu wedyn i ymdrin rhywogaethau a chynefinoedd eraill. Maen debygol y bydd nifer o ardaloedd yn addas ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau S42/Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol luosog. 

Bydd y strategaeth yn targedu safleoedd i greu, adfer a gwella cynefinoedd. Cysylltir thirfeddianwyr ac, os byddant yn cytuno, bwriedir nodi manylebau gwaith cynefinoedd i ddatblygu nifer o safleoedd peilot iw galluogi i fod yn barod i gynnig ir datblygwyr ddewis cymryd mesurau lliniaru neu ddigolledu. Yna, gellir defnyddior manylebau i fwrw ymlaen gwaith ymarferol ar y tir yn y dyfodol.. Byddair prosiect yn cael ei roi ar waith drwy ariannu contractiwr arbenigol. Ar l sefydlur prosiect, defnyddir dull strategol o weithredu ochr yn ochr r broses gynllunio ar nod yw ir prosiect fod yn hunangynhaliol o ran ariannu gwaith cynnal a chadw a chreu safleoedd newydd drwy gytundebau S106. Bydd y prosiect yn cadw at egwyddorion y Cynllun Datblygu Lleol syn cael ei gynhyrchu gan Gastell-nedd Port Talbot ai Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£13,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2
Achieving better biodiversity compensation with added benefits for all

Cyswllt:

Enw:
Rebecca Sharp
Rhif Ffôn:
07816 973877
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts