Bwlch Nant yr Arian

Nod y prosiect yw adeiladu llwybr beicio mynydd canolraddol yn dechrau yng Nghanolfan Ymwelwyr Nant yr Arian. Mae'r llwybr newydd eisoes wedi cael ei ddylunio a'i gostio a chaiff ei enwi yn Llwybr Melindwr er mwyn creu naws am le. Byddai'r prosiect yn cynnwys llwybr canolraddol mewn pedair rhan wedi'u cysylltu gan ffordd goedwig. Cyfanswm hyd y llwybr canolraddol unwaith y caiff ei adeiladu fydd tua 9km gan y byddai hefyd yn defnyddio rhai ffyrdd coedwig. Dyluniwyd y llwybr yn bennaf i gyflwyno beicwyr mynydd newydd i lwybrau beicio oddi ar y ffordd a llwybrau beicio untrac. Bydd y llwybr newydd yn ategu'r llwybrau beicio mynydd medrus ac arbenigol sy'n bodoli eisoes yn Nant yr Arian, yn ogystal â'r parc sgiliau newydd. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£128,000
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Bwlch Nant yr Arian - Melindwr Bike Trail

Cyswllt:

Enw:
John Taylor
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts