Byw a Bod yn y Gymuned - Rhan 2

Dros gyfnod Haf 2020, trefnwyd galwad agored i ddarganfod pa gymunedau yng Ngwynedd oedd yn awyddus i fod yn rhan o gynllun a oedd eisiau adnabod heriau yn eu cymuned dros gyfnod o 8 wythnos. Cafwyd 5 o gymunedau yng Ngwynedd i gymryd rhan yn y cynllun gyda 18 o bobl ifanc yn cymryd rhan o Blaenau Ffestiniog, Penygroes, Bethesda, Llanystumdwy ac Llanaelhaearn.

Ar ddiwedd y cynllun roeddem yn chwilio am ddatrysiadau posib er mwyn treialu gweithgaredd pellach gan Arloesi Gwynedd Wledig. Ar ddiwedd yr 8 wythnos trefnwyd digwyddiadau cloi ar gyfer yr holl gymunedau er mwyn i’r bobl ifanc arddangos a rhannu’r heriau a’u hadnabwyd gydag awgrymiadau a’r datrysiadau posib. O’r 18, penderfynwyd rhoi cyfle ychwanegol i 5 o’r bobl ifanc ymhelaethu ar eu gwaith ymchwil. Tri o Bartneraeth Ogwen a 2 o Gwmni Bro, Blaenau Ffestiniog.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£10,080
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rhian Hughes
Rhif Ffôn:
01766514057
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts