Bydd y prosiect yn creu cyfleoedd i wella lles unigolion a chymunedau ar hyd camlesi’r Canolbarth.
Mae gan gamlesi Maldwyn a Sir Fynwy’r potensial i sbarduno teithio llesol, gwella’r cysylltiadau rhwng pentrefi gwledig ac ardaloedd trefol a’u cysylltu â mannau gwyrdd a bioamrywiaeth.
Fel gofodau llinellol, diogel a phendant eu ffiniau, mae camlesi’n fan cychwyn da ar gyfer ennyn hyder a gellir defnyddio'r hyder hwnnw, gyda chymorth, i annog pobl i fynd i gefn gwladi hamddena a mwynhau.
Amcan y prosiect yw:
- Lleihau’r rhwystrau corfforol ac o ran hyder a chanfyddiad ymhlith y grwpiau a allai elwa o gael mynd i gefn gwlad, a
- Cael mwy o bobl i brofi bioamrywiaeth a mannau gwyrdd ac ymwneud â nhw.
Cyflawnir hyn trwy nifer o ffyrdd:
- Gwella’r seilwaith ffisegol, ar lwybrau tynnu’r camlesi ac ar lwybrau cyhoeddus sy’n eu cysylltu â threfi a phentrefi a mannau o ddiddordeb gerllaw.
- Cyfoethogi’r fioamrywiaeth, trwy ddatblygu gwarchodfeydd natur;
- Gwaith dehongli ac ymgysylltu i feithrin cysylltiadau effeithiol rhwng yr adnodd a’r bobl sydd ar hyd coridorau’r camlesi.
- Elfennau o ragnodi gwyrdd, trwy gysylltu â mentrau sy’n bod eisoes i integreiddio cymunedau, grwpiau cymunedol a darparwyr iechyd â’r awyr agored trwy system atgyfeirio
- Marchnata a hyrwyddo i ddatblygu’u potensial fel adnodd economaidd.
Partneriaid y prosiect yw timau Gwasanaethau Cefn Gwlad, Adfywio a Thwristiaeth Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Cyngor Sir Fynwy a Sir Drefaldwyn.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£840,755.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Cydweithio
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Sian Barnes
- Cyfeiriad e-bost:
- sian.barnes@powys.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts