Canllaw Blas Cambrian

Mae'r prosiect cydweithredol hwn wedi'i ddatblygu i gyd-fynd ag un o elfennau pwysicaf Ffordd Cymru, sef Ffordd Cambria sy'n dilyn yr A470 o Gaerdydd yn y De i Landudno yn y Gogledd. Nod y prosiect, "Blas Cambrian Taste", yw gwella ansawdd profiadau ymwelwyr yn eu cyrchfan a chynyddu'r manteision economaidd i fusnesau a chymunedau ar hyd Ffordd Cambria mewn ffordd gynaliadwy.

Caiff gwaith ymchwil ei wneud i ddewis a hyrwyddo busnesau bwyd, diod a thwristiaeth, gwyliau bwyd ac ati ar Ffordd Cambria a'u crynhoi'n glystyrau i ffurfio teithiau blasu. Byddan nhw'n cael eu clystyru bob yn ddeg, er enghraifft y deg siop fferm orau, y deg bragdy gorau, y deg tafarn orau, y deg marchnad orau sy'n gwerthu bwyd a diod lleol.

Caiff y rhain a busnesau eraill sy'n cymryd rhan eu rhestru a'u marchnata ar ddeunydd hyrwyddo ar-lein a thraddodiadol. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£63,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF)
Ardal:
Bro Morgannwg
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Nerys Howell
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts