Nod y prosiect yw adfywio coetir llydanddail hynafol ger Trefynwy. Bydd prosesu, cynhyrchu a gwerthu sawl math o gynnyrch coed yn yr economi leol yn ganolog i hyn. Bydd y gwaith yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Teneuo, tocio a bondocio yn y coetir i greu gorchudd uchaf cryf ac iach a llawr is o goed sy'n addas at ddibenion cynhyrchu a chrefft
- Plannu, cynaeafu a phrosesu coed pren caled at ddibenion cynhyrchu crefft a gwerthu masnachol
- Prynu cyfarpar addas i wneud hyn ar dir serth a chreigiog a darparu amrywiaeth o offer peirianyddol yng ngweithdy'r sgubor i'w defnyddio'n ddiogel ac effeithiol gan staff
- Gosod system ynni solar oddi ar y grid a chasglu dŵr llwyd ar brif adeilad y sgubor i ddarparu cyflenwad trydan a dŵr cynaliadwy
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£15,792
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren
- Ardal:
-
Dyffryn Wysg
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- James Cooke
- Cyfeiriad e-bost:
- james@standingstartsolutions.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts