Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Nod y prosiect yw ehangu'r llwybr MinorTaur ym Mharc Coed y Brenin. Llwybr beicio mynydd gradd glas 9km o hyd yw'r MinorTaur ac mae'n cynnwys 3 dolen. Bydd y prosiect yn ychwanegu pedwaredd ddolen at y llwybr, gan gyflwyno 2km newydd o drac unigol. Mae'r llwybr gradd glas yn addas i ddechreuwyr a beicwyr canolradd, teuluoedd a phlant ifanc, a rhai beicwyr ag anableddau. Mae Parc Coed y Brenin ymhlith y canolfannau llwybrau beicio mynydd gorau yn y DU a nod y prosiect yw cynyddu'r farchnad bresennol a denu marchnadoedd newydd fel mamau ifanc, gweithwyr proffesiynol llewyrchus, unigolion addysgedig o'r trefi mawr, cymunedau o ganol dinasoedd, grwpiau lleiafrifol, grwpiau ieuenctid ac oedolion ifanc ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol. Rhagwelir y bydd yr estyniad 2km yn cynyddu nifer yr ymwelwyr 5k ychwanegol bob blwyddyn. Disgwylir hefyd y bydd y prosiect yn creu swydd llawn amser ar gyfer cynorthwy-ydd arlwyo ar gyflog o tua £18k y flwyddyn a swydd Swyddog Cymorth Busnes rhan amser. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£88,000
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
John Taylor
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts