Canvas and Campfires

Ehangu'r llety ac uwchraddio'r cyfleusterau er mwyn gwella hygyrchedd, datblygu'r ddarpariaeth ansawdd uchel a gwella cyfraddau deiliadaeth y tu allan i'r prif dymor gwyliau.

Maent yn ymrwymedig i gynhwysiant a dathlu amrywiaeth ac yn awyddus i ddatblygu'r ddwy lain olaf er mwyn cynnig pebyll saffari hygyrch.

Bydd y pebyll 6m yn lletach er mwyn cynnig mwy o le ac er mwyn gallu defnyddio cadeiriau olwyn a chymhorthion symudedd, lle ar gyfer dyfais godi symudol yn y brif ystafell wely, ystafell wlyb en-suite, ferandâu lletach, mynediad ar ffurf decin a rampiau a mannau parcio penodedig yn agos at y pebyll.

Yn ogystal, hoffent gynnig 3 twba twym a sawna i'r holl westeion eu defnyddio. Y tu allan i'r tymor glampio, byddant hefyd yn marchnata'r cyfleusterau hyn i ymwelwyr dydd ac ymwelwyr gyda'r nos, gan greu 'sba gaeaf yn yr awyr agored'. Bydd y cyfleusterau hyn hefyd yn hygyrch. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£25,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Ellie Waters
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts