Casglu ar gyfer Cenedl

Yr astudiaeth ddichonoldeb Casglu ar gyfer Cenedl yw ail gam flaengynllun tri cham 'Trawsnewidiadau' a fydd yn gwella cynaliadwyedd ac yn cynyddu mynediad y cyhoedd i gasgliadau sydd o bwysigrwydd rhanbarthol, i gynnwys y cymunedau mewn digwyddiadau a gweithgareddau a datblygu eu sgiliau, a thrwy hynny gefnogi cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol lleol.

Mae'r casgliadau (dros 60,000 o eitemau) yn cynrychioli pob agwedd ar hanes a diwylliant cyfoethog Ceredigion o'r cynhanes hyd heddiw, ond nid yw tua 80% yn cael eu harddangos nac wedi'u cartrefu'n ddiogel mewn storfa hygyrch. Nod Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yw cadw diwylliant a threftadaeth ein sir hanesyddol, Ceredigion, yn fyw trwy ddatblygu, cadw a dehongli'r casgliadau hyn.

Bydd Casglu ar gyfer Cenedl yn penodi ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn nodi ac adolygu opsiynau a chynhyrchu adroddiad manwl ar ddylunio, cynlluniau gwaith a chyllid posibl trwy archwilio nifer o faterion gan gynnwys gwella mynediad corfforol, digidol a deallusol i'r casgliadau, gan wella cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes, ac ymgysylltu â'r gymuned a gwella 'gofal casglu' i ddiogelu treftadaeth Ceredigion er lles cenedlaethau'r dyfodol.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£14,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Meleri Richards
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts