Byddai’r Prosiect yn cynnal cynllun peilot ar ffordd newydd o ddarparu cefnogaeth i blant gydag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd i gael gafael ar ddarpariaeth addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant mewn lleoliad lleol o’u dewis yn yr ardaloedd gwledig.
Byddai Cynllun Cefnogi Cyn Ysgol Conwy yn cyflogi Gweithiwr Cymorth dwyieithog; a fyddai’n darparu’r canlynol -
- Y Plentyn - oriau ychwanegol o gefnogaeth, cyfarpar ac adnoddau
- Y Teulu - cyngor, arweiniad a chefnogaeth yn eu dewis iaith
- Y Lleoliad - cyngor, arweiniad, sicrwydd a chefnogaeth, mynediad at hyfforddiant, sgiliau a gwybodaeth
Byddai’r prosiect hefyd yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael Miliwn o Siaradwyd Cymraeg erbyn 2050. Mae cyfathrebu’n allweddol i addysg y Blynyddoedd Cynnar, ac mae’n hanfodol bod lleoliadau’n gallu diwallu anghenion plant yn eu gofal yn eu dewis iaith nhw a dewis iaith eu cymuned a’u teulu. Mae hawl gan blant i fynegi eu barn a dylanwadu ar y pethau sy’n effeithio arnyn nhw yn eu dewis iaith. Bydd sgiliau cyfathrebu y mae plentyn yn eu dysgu ar ddechrau eu bywydau yn gosod y seiliau ar gyfer eu gallu i gyfathrebu yn y dyfodol. Mae sgiliau iaith cryf yn ased a fydd yn hyrwyddo cyfathrebu effeithiol ar hyd eich oes. Mae cyflogi gweithiwr Cymorth dwyieithog yn allweddol er mwyn cefnogi datblygiad y cyfathrebu effeithiol hwn i blant sy’n cael anawsterau yn y maes hwn.
Byddai’r Prosiect yn darparu Ymyrraeth/ Ataliaeth Gynnar yn effeithiol. Mae Ymyrraeth Gynnar yn allweddol i blant y darganfyddir o oedran cynnar bod ganddynt anghenion addysgol arbennig a allai effeithio ar eu datblygiad. Un agwedd bosibl ar Ymyrraeth Gynnar fyddai defnyddio cefnogaeth un i un i weithio’n agos â’r plentyn, eu teuluoedd ac unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n cyfrannu at eu gofal i sicrhau bod unrhyw gynlluniau neu strategaethau a thechnegau penodol yn cael eu hasesu’n holistaidd a’u rhoi ar waith yn gyson. Mae ymyrraeth gynnar yn caniatáu rhai plant i ddal i fyny â’u cyfoedion ac eraill i dderbyn y cymorth sydd ei hangen arnynt mor fuan â phosibl er mwyn osgoi rhwystredigaeth ac anghenion hirdymor.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£7440.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Julie Whitehead
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts