Cerflun a Phrosiect Gwybodaeth Cynaliadwyedd Penmaenmawr

Nod cam un y prosiect yw comisiynu a gosod cerflun ym Mhenmaenmawr sy’n codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd naturiol a chynaliadwyedd. Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda’r gymuned leol i benderfynu ar union natur y cerflun, ond mae’r adborth cychwynnol yn awgrymu y dylai fod yn gerflun sydd â’i ffurf yn cynrychioli’r ardal. Gallai fod yn anifail sy’n agos at galon pobl, fel merlod y carneddau ac wedi’i wneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, sy’n cynrychioli’r achos. 

Bydd yr ail gam yn cydredeg yn rhannol â cham un, a bydd yn cofnodi’r holl waith ar gam un. Bydd y cam hwn o’r prosiect hefyd yn cymhwyso ac yn meintioli’r manteision a gaiff eu sicrhau yng nghymunedau Dwygyfylchi a Phenmaenmawr ac yn lledaenu’r neges hon i’r gymuned.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£7995.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Conwy
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Dr Martin Hanks
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts