Chwedlau Harlech

"Mae Cymdeithas Twristiaeth Harlech yn gymdeithas hirsefydledig a fu'n gweithredu ers tua 40 mlynedd. Mae ganddi gyfansoddiad, swyddogion etholedig a datganiadau ariannol. Mae ei hincwm yn uwch yn ystod blynyddoedd penodol pan gaiff gymorth grant tuag at brosiectau penodol.

Felly, mae ganddi rywfaint o brofiad o ran rheoli prosiectau cyfalaf bach, ac mae'n rheoli prosiect o dan y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (cymorth o £50k) ar hyn o bryd. Cyngor Sir Gwynedd sy'n arwain y prosiect, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, a'r bwriad yw llunio cynllun i Harlech (gan ddefnyddio ymgynghorwyr allanol – Chris Jones Regeneration) sydd ar ffurf drafft terfynol ar hyn o bryd. Yn wir, mae'r Gymdeithas wedi cyfeirio at y cynllun hwn fel rhan o'i chais. Felly, bydd rhanddeiliaid eraill, fel y Gymdeithas, yn bwysig wrth helpu i roi rhannau o'r cynllun hwnnw ar waith. Mae'r prosiect fel a ganlyn:

Arwyddion porth (i Harlech), arwyddion Llwybrau Troed a Marcio, Llwybr Canol y Dref, Llwybr Llenyddol / Celfyddydol, elfennau cyfalaf i ategu prosiect seilwaith Chwedlau a Môr y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth."
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£60,800
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Mr R Chapman
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts