Clera Ceredigion

Mae CLERA Ceredigion yn brosiect perfformio a fydd yn cydnabod ac yn dathlu ein treftadaeth yn ogystal â chryfderau a digwyddiadau ein cymuned fodern. Bydd yn digwydd ar raddfa fach, unigol a lleol. Mae ynysu gwledig wedi gwaethygu oherwydd COVID19 gan arwain at orddibyniaeth ar gyfryngau torfol canolog, ac sydd i raddau yn amhersonol. Ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf clywyd sŵn clapio un prynhawn ar stryd yn Aberystwyth; roedd dau gerddor stryd yn cael eu canmol gan deulu bach oedd wedi dod allan am dro. 

Fel arfer rydym yn pasio 'bysgwyr' heb roi unrhyw sylw iddynt ond dangosodd y digwyddiad hwn yr awydd a'r angen am adloniant byw, lleol ac yn bwysig, heb unrhyw dorfeydd. O ystyried y ddau bwynt uchod – unigedd cynyddol a'r awydd am adloniant lleol byw – nod CTAG ar gyfer tymor yr Haf 2021 (Ebrill-Gorffennaf) yw creu cyfres o eitemau perfformiad byw, o dan y thema 'Ein straeon'. Bydd wyth perfformiwr, sef actorion, storïwyr, dawnswyr, cerddorion, bardd, coreograffydd, a ffotograffydd yn cydweithio gyda chyfarwyddwr y cwmni i greu perfformiadau bach unigol - gyda phob elfen unigol yn rhan o un clytwaith thematig. Byddant yn teithio i wahanol ardaloedd yn y sir, gan gyrraedd fel 'minstrels of yore' - sef beirdd a cherddorion sy'n crwydro. 

Byddant yn gorymdeithio fel ffigurau rhithiol lliwgar ac egsotig drwy bentref neu dref, gan gadw pellter oddi wrth ei gilydd a'r cyhoedd, cyn i bob un ohonynt, yn unigol, fynd i ardd neu flaen tai unigol neu i sgwâr pentref i gyflwyno perfformiadau 'micro'. 

Oherwydd cyfyngiadau COVID19 ni fydd llawer iawn o hysbysebu i ddenu llu o bobl ac ni fydd y perfformwyr yn aros yn ddigon hir mewn un lle i ddenu cynulleidfa. Ond byddwn yn cysylltu â sefydliadau a threfnwyr cymunedol wrth baratoi'r prosiect, gan ganiatáu i bobl wneud cais am ymweliad â'u tŷ, eu gardd neu eu fferm i berfformio ar gyfer y teulu - neu drefnu ymweliad fel 'syrpreis' i rywun arall. 

Bydd y thema 'Ein Straeon' yn cynnwys chwedlau a straeon lleol a chaneuon traddodiadol ochr yn ochr â straeon a newyddion cyfredol a diweddar.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£27000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Clera Ceredigion

Cyswllt:

Enw:
Jeremy Turner
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts