Cludiant Carbon Isel ym Mhowys

Bu nifer o fentrau diweddar i helpu dod â chludiant carbon iseliI Ganolbarth Cymru. Mae’r AC lleol Russell George wedi cynnal cyfarfodydd ac wedi llunio adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru.  Mae gan LC ei hun gronfa ar gyfer gosod gwefryddion ‘sydyn’ (20 munud) ar draws Cymru er mwyn i unigolion sy’n teithio trwy Gymru’n gallu defnyddio cerbydau trydan. Mae gan Gyngor Sir Powys gronfa debyg, ond ar gyfer gwefryddion ‘cyflym’ (2-4awr) fydd yn annog pobl i aros am ychydig. Bydd Gwefryddion Pen y Daith yn ymddangos ar feysydd parcio sy’n eiddo iGSP ym mwyafrif ein trefi cyn bo hir.

Mae tri pheth ar goll:

  1. Rhwydwaith gwefru mwy cynhwysfawr. I gyflenwi cyfleusterau CSP a LlC (ac efallai i ddylanwadu ar le bydd y rhain yn mynd) ond sy’n canolbwyntio ar fodloni anghenion a nodwyd a chyfleoedd ar lefel trefi unigol;
  2. Cymorth uniongyrchol i gael cerbydau trydan mewn clybiau ceir, a’r angen yn wir i sefydlu clybiau ceir mewn cyfres o drefi ar draws Canolbarth Cymru;
  3. Defnyddio’r gwefryddion hyn a cherbydau trydan i wneud gwahaniaeth - yn benodol mewn meysydd megis cludiant cymunedol (sydd dan bwysau aruthrol) ac i gysylltu â chludiant cyhoeddus (gan fanteisio ar reilffyrdd, ffordd osgoi newydd y Drenewydd, a’r diddordeb diweddar mewn datblygu rhaglen ehangach i hyrwyddo twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru).

Ein cynnig yw dull o weithio cydgysylltiedig o ran cyflwyno cerbydau trydan ac o ran adnabod sut gall eu cyflwyno arwain at fuddion cymdeithasol ac economaidd.

Mae Agor Drenewydd wedi cytuno i gyflwyno’r cais hwn a chydlynu’r prosiect hwn. Maen nhw am egluro NAD prosiect ar gyfer y Drenewydd yn unig yw hwn. Bydd OND yn llwyddo os bydd y pedair tref sy’n cysylltu Dwyrain Canolbarth Cymru â Gorllewin Canolbarth Cymru’n ymuno â’r prosiect. Mae Agor Drenewydd yn ystyried ei hun fel cydlynydd y prosiect, ac nid buddiolwr.

Mae’r prosiect yn gyfle cyffrous i ddefnyddio’r hyn y gellir ei ddysgu gan Gymru a’r DU (rydym wedi cysylltu ag arbenigwr yn y maes, Chris Endacott o GFleet sy’n barod i gynorthwyo ar y prosiect) ac i brofi defnyddio cerbydau trydan (CT) fel ateb cludiant cost a charbon isel i dlodi cludiant mewn trefi marchnad ac ardaloedd gwledig yng Ngogledd Powys, a sefydlu model y gellir ei ddyblygu. Maen nhw mewn sefyllfa unigryw o allu gweithio ar draws pedair tref.

Bydd cydlynydd y prosiect yn:

  1. Cynnal prosiect ymchwil-weithredu ugain mis. Gan ddechrau’n gynnar yn haf 2019 i’w gwblhau ym mis Rhagfyr 2020.  Y ffocws fydd lansio a sefydlu cerbydau trydan yng Nghanolbarth Cymru a gadael clybiau ceir sy’n gynaliadwy ar lefel ariannol a phoblogaeth sy’n gyfarwydd gyda theithiau carbon isel.
  2. Ar y cychwyn cyntaf galluogi gosod seilwaith gwefru ym mhob un o’r pedair tref yn ystod ail hanner 2019. Bydd cysylltiad hefyd â’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Gyngor Sir Powys (a Llywodraeth Cymru) i ddatblygu seilwaith gwefru ar hyd a lled y sir;
  3. Cefnogi clybiau ceir presennol (Llanidloes a Machynlleth) a rhoi cefnogaeth uniongyrchol i sefydlu clybiau ceir newydd (Y Trallwng a’r Drenewydd). Fel rhan o hyn, bydd yn dod â cherbydau bron yn newydd i bob tref am bris fforddiadwy;
  4. Yn sicr, cyflenwi clybiau ceir a cherbydau trydan ar lawr gwlad ond hefyd ein gorfodi i ystyried tri maes angen a nodwyd yn barod, sef:
    1. Y model gorau ar gyfer Canolbarth Cymru o ran sefydlu a rhedeg clybiau ceir a thrwyddynt, cyflwyno cerbydau trydan i’r boblogaeth ehangach;
    2. Y ffordd orau i glybiau ceir a cherbydau trydan gael effaith ar:
      1. Gefnogi cynlluniau cludiant cymunedol megis Cynlluniau Galw’r Gyrrwr a chynlluniau gyrwyr gwirfoddol er mwyn annog mwy o gefnogaeth a/neu gostau isel wrth ystyried y pwysau enfawr arnynt i wneud mwy am lai;

Integreiddio i’r system cludiant cyhoeddus i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer Teithio Llesol (teithiau heb fod yn rhai hamdden) ac i roi hwb i dwristiaeth a theithiau hamdden i ac allan o’n trefi.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£94,001
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Powys
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Louise Nicholson
Rhif Ffôn:
01597827378
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts