Clwb Codio

Bydd y prosiect yn sefydlu rhwydwaith o glybiau codio yng Nghonwy. Bydd y prosiect yn golygu cydweithio rhwng ysgolion cynradd Conwy, Cyngor Sir Conwy a Choleg Meirion-Dwyfor i gyflwyno cyfres o weithdai a chymorth parhaus gyda'r nod o sefydlu clybiau codio mewn ysgolion cynradd ar draws Conwy a darparu cyfleoedd i blant Conwy ddysgu sut i godio.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant a chefnogaeth i'r plant a'r athrawon yn yr ysgolion gwledig, prynwyd Chrome books ar gyfer yr ysgolion heb gyflenwad cyfyngedig o offer TG.

Cod yw'r hyn sy'n dweud wrth gyfrifiaduron beth i'w wneud. Y tu ôl i bob rhaglen gyfrifiadurol, gêm, ap ac ati mae yna god. Mae popeth sy'n cael ei gyfrifiaduro neu ei ddigideiddio yn dibynnu ar god. Mae'r galw am bobl â sgiliau codio yn cynyddu'n barhaus wrth i'n byd fynd yn fwy cyfrifiadurol. Mae clybiau codio yn addysgu sgiliau meddwl a chodio cyfrifiadurol i blant, gan eu galluogi i greu eu gemau cyfrifiadur a'u apps eu hunain, gan eu troi o ddefnyddwyr digidol yn greawdwyr digidol.

Gyda chyflwyniad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru, mae plant yn cael eu cyflwyno i'r cysyniad o godio yn yr ysgol. Fodd bynnag, rhan fach o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw codio; bydd y prosiect hwn yn caniatáu i blant ddatblygu eu sgiliau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan ddarparu heriau a fydd yn mynd â'u sgiliau codio i lefel llawer uwch nag a fyddai'n cael ei gyflawni yn yr ystafell ddosbarth yn unig.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£159891.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Conwy
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2
Triumph for rural Conwy Coding Club students

Cyswllt:

Enw:
Meira Woosnam
Rhif Ffôn:
01492 576672
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://ruralconwy.org.uk/triumph-rural-conwy-coding-club-students/?lang=en

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts