Co-op caws

Edrych os oes galw am offer arbenigol fyddai’n galluogi cynhyrchwyr caws i gynyddu faint maen nhw’n cynhyrchu. Bydd hefyd yn gyfle i gynhyrchwyr llaeth arallgyfeirio gan fentro ac arbrofi cynhyrchu cawsiau artisan eu hunain.

 

Mae yna rai cynhyrchwyr caws ar raddfa bach yn barod yng Ngwynedd. Yn aml iawn cynhyrchu yn eu ceginau ar y fferm maen nhw wrth arbrofi gyda chynhyrchu caws. Mae’n anodd iddyn nhw dyfu a chreu busnes o’r cynnyrch heb iddynt gael lle priodol i allu cynhyrchu mwy o’r cawsiau.

Bwriad yr ymchwil fydd i geisio darganfod os oes galw ar gyfer cael lleoliad lle mae yna offer arbenigol er mwyn i gynhyrchwyr llaeth allu arbrofi drwy gynhyrchu caws. Bydd hefyd yn gyfle i’r rhai sy’n cynhyrchu ychydig o gaws eisoes i dyfu eu busnes drwy eu galluogi i gynhyrchu mwy.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£4,950
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Thema:
1, 2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Carwyn ap Myrddin
Rhif Ffôn:
01766 515 946
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts