Coaltown Coffee Cyf The Roastery

Nododd y cwmni gyfle i gyfuno'r theatr sy'n gysylltiedig â gwneud coffi go iawn â'r profiad synhwyraidd sy'n gysylltiedig â rhostio coffi.

Y nod yw creu canolfan ragoriaeth ar gyfer rhostio, bragu a gwasanaethu coffi yn Rhydaman gan fanteisio ar y twf mewn coffi arbennig ledled y DU ac mewn 'twristiaeth goffi'.

Mae'r cynnig yn cynnwys Rhosty, Bar Coffi ac academi hyfforddi. Mae'r bar coffi arfaethedig yn cynnwys digon o le i 80 o ymwelwyr a all fwynhau amrywiaeth o goffi espresso un tarddiad neu goffi hidl-ddiferu wrth wylio arferion beunyddiol y rhosty yn mynd rhagddynt.

Caiff ei ategu gan gaffi bach a fydd yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau artisan wedi'u pobi ar y safle e.e. bara, pasteiod ac ati. Byddant hefyd yn cynnig arddangosiadau i'r cyhoedd a gwybodaeth am arferion pobi. Caiff ardal o fewn y cyfleuster ei defnyddio at ddibenion hyfforddi, diwrnodau profiad y gellir eu trefnu ymlaen llaw a chyrsiau barista cartref, ac fe'i defnyddir hefyd fel canolfan achrededig ar gyfer 'arholiadau coffi arbennig' a 'sesiynau blasu'.

Bydd yr ardal benodedig hon hefyd ar gael i'w llogi ar gyfer amrywiol weithgareddau a digwyddiadau, er enghraifft i'w defnyddio fel sinema dros dro, man cyfarfod ac ati. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£80,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Sir Gaerfyrddin
Cwblhau:
Coaltown Limited - Create a quality coffee centre of excellence for roasting, brewing and servicing coffee, showcasing the industrial theme of Ammanford

Cyswllt:

Enw:
Gordon James
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts