Coedardd Ucheldirol

Gwnaeth Coed Cymru fel y prif bartner mewn grŵp o bartïon â diddordeb gan gynnwys Tir Coed, Prifysgol Aberystwyth (IBERS) a Phentir Pumlumon gais am gyllid gyda Cynnal y Cardi i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar botensial gweithio traws-sector i ddatblygu coedwigaeth, ffermio, twristiaeth a hydwythdedd cymunedol yn rhanbarth Hafod.

Roedd hwn yn brosiect arloesol a ddaeth â sefydliadau o bob rhan o'r sector coetir ac amgylcheddol yng Ngheredigion ynghyd i hyrwyddo, datblygu ac adfywio'r tir o amgylch Bwa Hafod ger Pontarfynach, allan tuag at Gwmystwyth a Chanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran, gyda'r nod o wneud newid cadarnhaol i hydwythdedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal, gan gysylltu agendâu amgylcheddol a chymdeithasol yn yr ucheldiroedd.

Cafodd yr ymgynghorydd a benodwyd, Catalys Ltd, y dasg o siarad â phob un o bartneriaid y prosiect, ymgysylltu â phartneriaid newydd os oedd angen a choladu'r syniadau hyn yn un adroddiad cydlynol gyda chyllideb amlinellol ar gyfer unrhyw waith yn y dyfodol. 

Ymchwiliodd Catalys Ltd hefyd i wahanol fodelau llywodraethu partneriaeth a allai fod yn ofynnol i fwrw ymlaen â'r prosiect a choladu astudiaethau achos/papurau ymchwil perthnasol ar gyfer y prosiect. Amlinellodd yr astudiaeth ddichonoldeb raglenni cyllido sy'n berthnasol i'r prosiect a nododd fodel llywodraethu clir i alluogi'r bartneriaeth i symud ymlaen a chodi arian ar gyfer cyflawni'r prosiect. Rhagwelir y bydd yr astudiaeth ddichonoldeb hon yn cefnogi cynigion cyllido pellach er mwyn ymchwilio i gyfleoedd cyllido yn ogystal â chynhyrchu incwm.

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£8,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynnal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts