Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ardal 140ha ym Mwlch Corog ym Mynyddoedd Cambria. Y nod yw adfer tir anghynhyrchiol sydd wedi diraddio’n ecolegol er mwyn hybu bywyd gwyllt a phrosesau naturiol. At ei gilydd, bydd ardal o 3,000ha, a’r cymunedau cyfagos, yn elwa ar y prosiect.
Bydd y prosiect yn adfer cynefinoedd sy’n cysylltu coetiroedd a rhostiroedd gan helpu i gryfhau’r ecosystem a chreu bywyd gwyllt mwy amrywiol. Bydd y gwaith yn cynnwys cau ffosydd draenio a chynyddu tyfiant mewn yn y coetiroedd i helpu i leihau llif y dŵr, gwella ansawdd dŵr, a storio mwy o garbon mewn pridd a choed.
Bydd y prosiect hefyd yn creu mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a mwynhau natur. Mae cynlluniau hefyd i ymgysylltu â’r cyhoedd, meithrin sgiliau, datblygu rhaglen addysgol i ysgolion cynradd, cynnig cyrsiau i bobl ifanc a gweithgareddau ar y safle, gan gynnwys gwirfoddoli.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£566024.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Ceredigion
- Cwblhau:
-
- Cambrian Wildwood
Cyswllt:
- Enw:
- Simon Ayres
- Cyfeiriad e-bost:
- simon.ayres@coetiranian.org
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts