Coginio’n Araf Dysgu’n Gyflym

Dysgu sgiliau coginio sylfaenol, ymarferol i bobl ifanc dros gyfnod o 10 wythnos mewn rhaglen ar lein, i’w grymuso i gynllunio, paratoi a choginio prydau bwyd fforddiadwy sy’n gytbwys o ran maeth iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd fel rhan o fywyd iachach.

Bydd y prosiect yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu a gwella’u sgiliau llythrennedd, rhifedd, TGCh a byw’n annibynnol, gan eu galluogi i fyw bywydau iachach a chyflawni’u potensial llawn.

Bydd nodau’r prosiect yn cael eu cwrdd drwy gyflawni’r amcanion canlynol:

  • Cynnydd mewn gwybodaeth am fwyd ac iechyd, gan roi dealltwriaeth o fwyta’n iach, plât Bwyta’n Dda yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) a diddyfnu.
  • Mwy o hyder o ran bwyta’n iach. Cyfle i flasu bwydydd newydd, dilyn / addasu ryseitiau.
  • Sgiliau coginio uwch
  • Newid ymddygiad er mwyn gwella maeth – annog llai o fwyd pryd ar glud / prydau parod. newid arferion coginio i leihau halen, braster neu siwgr, bwyta mwy o lysiau / ffrwythau.
  • Cefnogi / gwella iechyd corfforol drwy ddeall yr angen i gael deiet amrywiol, cytbwys a maethlon.
  • Gwelliant mewn perthynas teuluol, gwelliant mewn sgiliau cyfathrebu / cymdeithasol a chynnydd mewn hyder.
  • Cefnogi / gwella iechyd meddwl.
  • Darparu lle diogel, strwythuredig ar gyfer dysgu.
  • Archwilio cyllidebu.
  • Darparu ymweliadau wythnosol wyneb yn wyneb gan weithiwr ieuenctid, ymwneud a chynhwysiant cymdeithasol (gollwng pecynnau bwyd) gan alluogi i wiriadau iechyd a llesiant gael eu gwneud yn llechwraidd.
  • Darparu cymhwyster dewisol Hylendid Bwyd Lefel 2 
Saesneg yn unig

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£15504.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rachel Davies
Rhif Ffôn:
01639 763030
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.npt.gov.uk/23665
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts