Cogino Ewro

Diben y prosiect hwn yw dysgu sgiliau ieithyddol ac adnabyddiaeth o ddull coginio a diwylliant yn ogystal â sgiliau arlwyo. Dymunwn ragbrofi’r prosiect hwn gan ddefnyddio’r Eidaleg ond gellir ei gynnig hefyd mewn ieithoedd eraill fel sy’n briodol. Bydd dysgu’n cael ei gysylltu â sesiynau coginio a bydd yn cwmpasu dull coginio Eidaleg. Partneriaeth (Rhagbrawf) yw’r prosiect gydag Adran Ieithoedd Tramor Modern Ysgol Uwchradd Trefynwy a’r Rhwydwaith. Bydd y sesiynau coginio cysylltiedig yn cael eu harwain gan Franco Tarucshio OBE, sydd â seren Michelin, gyda phwyslais ar y tymhorau, defnyddio cynnyrch lleol a chyflwyniad i ddiwylliant y wlad. Bydd y rhagbrawf yn cynnwys blwyddyn 8 yn YUT. Dyma’r flwyddyn cyn gwneud dewisiadau TGAU a’r canlyniad fydd bod syniad gyda’r disgyblion ynglŷn âr hyn sydd angen am yrfa yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn Nyffryn Wysg.

Bydd y sgiliau sy’n cael eu hennill hefyd yn ychwanegu i gwricwlwm y plant, yn enwedig Bagloriaeth Cymru. Bydd tri cham: 4 awr o ddysgu iaith fel rhan o’r ddarpariaeth allgyrsiol yn YUT. Anwythiad iechyd a diogelwch. Bydd y gwersi ieithoedd yn cynnwys geirfa sy’n ymwneud â’r sesiynau coginio, er enghraifft cynhwysion, offer a ryseitiau.

  1. 4 x sesiynau 2 awr yng ngheginau’r ysgol wedi’u harwain gan Franco Taruschio (cogydd Eidaleg â seren Michelin), lle fydd y disgyblion yn dysgu sut i goginio amryw o brydau Eidaleg, gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Eidaleg fydd y brif iaith cyfathrebu yn ystod y sesiynau hyn. Bydd athrawon ieithoedd yn y gegin am y sesiynau hyn er mwyn cynnig cymorth ieithyddol i’r plant. Bydd y gweithgareddau i gyd yn cael eu mapio i’r Gymraeg. Bydd y sesiwn cegin (lle bo’n briodol) yn cael ei arsylwi gan ddisgyblion cyfryngau efallai bydd yn cael eu gofyn i ffilmior gweithgareddau.
  2. Sgiliau digidol – Bydd offeryn prosiect digidol yn cael ei ddatblygu bydd yn galluogi ail-greu’r broses a rhannu’r gweithgaredd yn eang. Bydd disgyblion cyfryngau’n helpu’r datblygiad. Bydd DVD (neu gerbyd arall) hefyd yn cael ei gynhyrchu iw ddosbarthu i ysgolion eraill a phartïon eraill sydd â diddordeb.
  3. Bydd digwyddiad ymarferol yn cau’r prosiect a bydd yn arddangos y sgiliau (coginio, iaith a digidol) a’r gwersi sydd wedi’u dysgu gan y plant.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£2,015
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Deserie Mansfield
Rhif Ffôn:
07816 066046
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://monmouthshire.biz/project/eurocook/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts