Byddwn yn dod â grŵp o oedolion ifanc at ei gilydd i arwain a datblygu diddordeb ac egni o amgylch ffyrdd newydd o fwynhau hanes, chwedlau, treftadaeth a diwylliant yng Nghonwy wledig.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddefnyddio profiadau perthnasol sy’n seiliedig ar gysyniadau yng Nghonwy wledig sy’n dod â’r canlynol at ei gilydd:
- agweddau ar hanes, treftadaeth a diwylliant
- bwyd lleol a busnesau bwyd
- agweddau cadarnhaol at fywyd o ran lles, iechyd meddwl a gwytnwch cymunedol
- y Gymraeg drwy gyflwyno geiriau unigol sy’n tanio dychymyg fel Bendigedig, Pendwmpian, Iechyd da, Hiraeth ac ati.
- ffotograffiaeth dda, ffilmio sinematig ac adrodd straeon creadigol am y profiad a fydd yn ysbrydoli ymgysylltiad.
Er enghraifft, dyn yn mynd â’i gi am dro ar ei ben ei hun i fyny Mynydd y Dref yng Nghonwy, yn darganfod bryngaer o Oes yr Haearn ac yna’n ysgrifennu amdano yn yr Albion gyda pheint o gwrw Rampart gan Fragdy Conwy tra bod ei gi’n pendwmpian wrth y tân. Staff FatFace Conwy’n prynu byrgyrs Edward’s ac yn mynd ag ychydig o geufadau i fyny i Lyn Geirionydd i gael barbeciw i’r tîm, gwrando ar gerddoriaeth a mwynhau yn y dŵr.
Mae lefelau’r egni yn yr amrywio rhwng yr enghreifftiau hyn ond maent yn dangos gwahanol agweddau ar yr hyn sydd gan Gonwy i’w gynnig.
Sianel Youtube ConwyFyw ac ardal gwefan y prosiect fydd cartref pob ffilm a stori am bob profiad a gaiff ei saernïo. Byddant hefyd yn cael eu rhoi ar gyfrifon Pinterest, Instagram, Facebook, a Twitter ConwyFyw. Byddant hefyd yn cael eu hyrwyddo drwy rwydweithio ar y cyfryngau cymdeithasol a chysylltu â:
- #GwladGwlad
- Blwyddyn Chwedlau - Croeso Cymru
- Darparwyr a sianeli newyddion fel Daily Post, Quartz a ati
- Digwyddiadau Conwy
- Grwpiau Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy
- busnesau lleol a’u safleoedd
- Prifysgolion a cholegau ar draws Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr
- blogwyr a grwpiau ardal leol
- a mwy.
Byddwn hefyd yn rhoi sylw i brofiadau fel rhan o ffilm, cerdyn post/taflen a phoster Pintrest am leoedd gwych i fynd iddynt a gweithgareddau i’w gwneud gyda’ch ci yng nghefn gwlad Conwy.
Dyma themâu posibl eraill:
- 6 lle i osod hamog yng nghefn gwlad Conwy
- Hiraeth
- Dyddiau ar eich pen eich hun
- Lleoedd unigryw i gael Cwtsh yng Nghonwy.
Bydd yr holl oedolion ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r syniadau a darparu’r sianel YouTube a’r strategaeth ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Byddan nhw’n cyfrannu at gynllunio, ffilmio, golygu a chynhyrchu’r allbynnau. Maen nhw’n cynrychioli croestoriad eang o’r gymdeithas gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, pobl ag anabledd, pobl LHDT, pobl o gefndiroedd ethnig, pobl sy’n dioddef o iechyd meddwl, gofalwyr ifanc, rhieni ifanc.
Byddan nhw hefyd yn cynnwys pobl eraill fel gwirfoddolwyr a fydd yn cymryd rhan yn y profiadau ac yn cyflenwi’r strategaeth cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn ni’n gweithio gyda phobl ifanc o brosiectau Venue Cymru, i’w cynnwys yn y gwaith cynllunio, hyrwyddo a darparu ac mewn profiadau. Bydd yr adnoddau hefyd yn cynnwys ymchwil a syniadau Venue Cymru ynghylch mythau a chwedlau yng nghefn gwlad Conwy.
Bydd y prosiect yn para chwe mis ac yn cynnig y canlynol:
- 20 o ffilmiau sinematig a fydd yn cael eu rhannu ar y sianel YouTube ac fel straeon Instagram.
- 10 o gyfarfodydd bob pythefnos gyda’r bobl ifanc
- 1000+ o bostiadau ac ailbostiadau #ConwyFyw ar draws llwyfannau cyfryngau
- hysbyseb/ ffilm hyrwyddo
- 6 prosiect Pintrest
- 5,000 o gardiau post/taflenni wedi eu dosbarthu drwy safleoedd twristiaeth a sefydliadau a busnesau partner
Rydyn ni’n hyderus, drwy ein prosiectau presennol, y bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhŷ Aberconwy, CADW ym Mhlas Mawr, siambr fasnach Conwy, siambr fasnach Llanrwst ac eraill yn dod yn bartneriaid i’r prosiect hwn. Rydyn ni’n barod i sicrhau cadarnhad o hyn os oes angen.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£10000.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Nidge Dyer
- Cyfeiriad e-bost:
- nidge@pogim.org
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts