Creu Bwyty 4 Seren Newydd ag Ystafelloedd

Mae'r ymgeisydd yn awyddus i agor bwyty newydd o safon ar ffurf bistro a llety â gwasanaeth o ansawdd yn Ninbych-y-Pysgod.

Bu'r adeilad i'w ddatblygu'n gweithredu fel parlwr hufen ia Fecci's ers sawl blwyddyn cyn hynny. Mae'r uned hunangynhwysol hon wedi'i lleoli mewn safle amlwg mewn lleoliad hynod ddymunol ar Stryd San Siôr yng nghanol Dinbych-y-Pysgod, nid nepell ar droed o'r harbwr.

Bydd 80 o bobl yn gallu bwyta y tu mewn a bydd lleoedd ychwanegol yn ystod misoedd yr haf, ynghyd ag ardal fwyta ffurfiol, lolfa ac ardal fwyta breifat ar wahân.

Caiff y llawr cyntaf ei drosi i greu dwy swît o ystafelloedd 4 seren, un ohonynt yn cynnwys dwy ystafell wely, a'r ddwy ag ystafell fyw ar wahân, ystafell ymolchi â chawod fawr, a chegin fach.  Caiff yr ystafelloedd hyn eu gwasanaethu, a chaiff brecwast ei weini ag opsiwn ychwanegol i westeion archebu cinio a phryd nos. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£100,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Doug Waters

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts