Creu maes parcio newydd i ymwelwyr (Traphont ddŵr a Chamlas Pontcysyllte)

Ers i Draphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ddod yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 2009, mae nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu cam wrth gam cymaint â 70% mewn rhai lleoliadau. Mae Basn Trefor, ger Traphont Ddŵr Pontcysyllte, yn atyniad pwysig i bobl sy'n ymweld â'r Safle Treftadaeth y Byd ac yn denu dros 250k o ymwelwyr bob blwyddyn erbyn hyn. Nid yw'r cyfleusterau na'r seilwaith cyffredinol ar y safle yn ddigonol, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur. Mae'r lleoedd parcio yn gyfyngedig i geir ac i fysiau ac yn ystod cyfnodau brig, mae'r safle yn ei chael hi'n anodd ymdopi, gan achosi tagfeydd traffig rheolaidd â cheir yn aml yn parcio ar ymylon glaswelltog ac ar strydoedd cyfagos.

Er mwyn ymdrin â'r mater hwn, bydd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru (CRT) yn prydlesu tir cyfagos er mwyn creu maes parcio talu ac arddangos newydd i ymwelwyr â digon o le i tua 158 o geir a man gollwng i fysiau. Un o elfennau allweddol y prosiect yw creu naws gadarn am le a chyrraedd wrth groesawu ymwelwyr i'r safle. Bydd y maes parcio newydd yn cynnwys arwyddion croeso, arwyddion marcio ar y ffordd, gwaith tirlunio ar lwybrau, a gwaith celf i adlewyrchu Safle Treftadaeth y Byd. Bydd yr holl arwyddion yn ddwyieithog ac yn dangos brand Safle Treftadaeth y Byd. Mae CRT yn bwriadu cydweithio â nifer o fusnesau bach sy'n gweithredu ar safle Basn Trefor er mwyn gosod arwyddion dwyieithog newydd â brand Safle Treftadaeth y Byd. Caiff map newydd ei osod er mwyn arddangos y safle a choridor ehangach y Safle Treftadaeth. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£104,277
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Wrecsam
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Nicola Lewis-Smith
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts