Cryfhau Coetiroedd Eiconig Cymru

Nod y prosiect hwn yw canolbwyntio ar gynefinoedd coetiroedd eiconig Cymru a’u gwella, gan eu cryfhau er mwyn medru manteisio ar y buddion a’r cyfleoedd busnes y gallant eu cynnig i’r cymunedau cyfagos.  

Gan fod y rhan fwyaf o’r coetiroedd eiconig a hynafol hyn yn nwylo perchnogion preifat, mae’n allweddol sicrhau cydweithrediad rhwng tirfeddianwyr, rheolwr a defnyddwyr. Bydd y prosiect yn adeiladu ar y gwaith ymgysylltu a’r partneriaethau sydd ar waith i wella nifer o goetiroedd ar hyd y lled Cymru. Drwy hyn bydd modd i’r safleoedd amrywiol rannu syniadau a gwybodaeth i sicrhau bod y camau priodol  yn cael eu cymryd i ymdrin â bygythiadau fel rhywogaethau a chlefydau goresgynnol. 

Bydd y prosiect hefyd yn helpu i ddatblygu dulliau o gynhyrchu pren yn gynaliadwy, ymchwilio i gyfleoedd eraill i gynhyrchu incwm a threialu opsiynau ar gyfer cynorthwyo coetiroedd ar ôl Brexit i ddatblygu modelau o gymorth hunangynhaliol.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£563,400
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Gareth Davies
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts