Cwch Addysgol

Nod y prosiect yw parhau ag adnewyddu, ailfodelu a diweddaru hen gwch camlas i'w ddefnyddio fel Cwch Cymunedol wedi'i leoli yn Lanfa Goytre, lle bydd y cwch yn cynnal teithiau rheolaidd i deuluoedd a phartïon ysgol, ynghyd â theithiau arbennig ar gyfer grwpiau anabl a difreintiedig.  Fel adnodd cymunedol, mae unrhyw incwm dros ben, yn ychwanegol at gostau rhedeg yn cael ei ail-fuddsoddi mewn addysg, cynnal, cadw ac adfer y gamlas.

Mae'r cwch yn amgylcheddol gynaliadwy, yn cael ei yrru gan drydan, ac mae ganddo lifft cadair olwyn a thoiled i'r anabl. Y cwch fydd yr unig gwch trip sy'n gweithredu ar Gamlas Sir Fynwy Sir Fynwy a reolir gan y gymuned ac sy'n gweithredu er budd y gymuned. 

Mae'r cwch yn ecogyfeillgar gan gael ei yrru'n drydanol ac â dau ben, gyda llafn gwthio a llyw yn y pen blaen a'r starn; mae'r nodwedd unigryw hon yn caniatáu arbed pŵer trydan gwerthfawr wrth newid cyfeiriad gan nad oes angen “troelli”. Bwriedir darparu gwybodaeth ar y cwch drwy WiFi wedi'i gwasanaethu gan set ddata pwrpasol graffigol hanes ac ecolegol gyfoethog.

Diwylliant - Er bod y prosiect hwn yn canolbwyntio ar y gamlas mae yna nifer o opsiynau ar gyfer cynorthwyo datblygu mynediad (twristiaeth a defnyddio'r caffi a gweithgareddau cwch eraill - i fod yn rhan o ddatblygu economaidd a chynyddu ymwelwyr i'r ardal).

Mae gan Lanfa Goytre y potensial am gefnogaeth Busnes i Fusnes.  Trwy annog y Cwch Cymunedol, y Caffi, Llogi Cychod ‘Red Line’ a Llogi Beiciau i weithio gyda'i gilydd i helpu i gefnogi ei gilydd, gallai gefnogi'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ar y safle gan weithio gyda'r caffi i ddarparu’r arlwyo ar-fwrdd sydd angen gan grwpiau gynyddu twf economaidd y busnesau yn y lanfa.

O bosibl, trwy ddefnyddio marchnata ar y cyd trwy wefan a chyfryngau cymdeithasol gyda'i gilydd, gallai feithrin dull ar y cyd o wella profiad yr ymwelydd trwy ddefnyddio technoleg newydd. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£29,500
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Deserie Mansfield
Rhif Ffôn:
07816066046
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts