Cydweithredu ar gyfer Twf

Nod y prosiect yw hwyluso cydweithrediad ymysg sector diodydd Cymru drwy ddull seiliedig ar glystyrau a fydd yn helpu cynhyrchwyr diodydd i wneud penderfyniadau effeithiol ynglŷn â phryd i gydweithio, â phwy i gydweithio, manteision cydweithio (cydweithio anffurfiol neu ffurfiol) er mwyn tyfu'n gynaliadwy gyda buddsoddiad cyfalaf cynyddrannol a chyrraedd nodau amgylcheddol.

Nod y gweithgareddau cydweithio fyddai gwella'r dangosyddion perfformiad canlynol: Twf, Elw ar Fuddsoddiad, Defnydd Dŵr ac Ynni, Ôl-troed Carbon a Chynhyrchiant. Gellir cyflawni'r rhain drwy ffurfio rhwydwaith o randdeiliaid yn cynnwys Cynhyrchwyr Diodydd micro, bach a chanolig, Cymdeithasau Diodydd (e.e. SIBA), sefydliad elusennol (WRAP), cyflenwyr, cwsmeriaid ac Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.

Bydd cyfranogiad gwahanol randdeiliaid yn galluogi i waith ymchwil arloesol gael ei gynnal ar gydweithredu yn y gadwyn gyflenwi ac yn dod â'r sector i gysylltiad ag arferion gorau a ddefnyddir mewn amgylcheddau cadwyn cyflenwi tebyg.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£780,136
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Cydweithio
Ardal:
Bro Morgannwg
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Angharad Kearse
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts