Yr amcan yw arallgyfeirio'r busnes i ffwrdd o ddibynnu ar gynaeafu cwympo clir i wasanaethau mwy arbenigol gan weithio mewn parseli o goetir anhygyrch, a dyma pam mae angen y buddsoddiad hwn.
Bydd ein buddsoddiad yn arwain at welliannau sylweddol i'r cwmni, a fydd yn eu tro yn ein galluogi i wella'r hyblygrwydd a'r capasiti i brosesu, symud coed a defnyddio coed yn y gadwyn gyflenwi. Bydd yr hyblygrwydd a ddaw gyda'r cyfarpar arbenigol ychwanegol yn ein galluogi ni i weithio gydag amrywiaeth eang o rywogaethau sydd i) angen eu rheoli, ii) angen eu hannog i dyfu a iii) darparu gwerth economaidd a chreu galw amdanynt.
Bydd y buddsoddiad, na all ddigwydd heb gyllid grant, yn gwella hyfywedd ariannol ein gweithrediadau a'n galluogi ni i wella a thyfu, gan wella'n cydnerthedd yn sylweddol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£143,500
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Evan Davies
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts