Cyfleuster Prosesu Wyau Effeithlon

Mae DJW Beaumont newydd gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i Gyngor Sir Powys am uned wyau maes ar gyfer 32,000 o wyau er mwyn manteisio ar y galw uchel am wyau maes Cymreig.

Gan fod angen prosesu wyau i safon uchel gyda chyn lleied o golledion â phosibl rwy'n cynnig gosod cyfleuster prosesu wyau. Byddai'r cyfleuster yn cynnwys adeilad o'r radd flaenaf gyda llinell brosesu manyleb uchel yn cynnwys cludydd wyau, paciwr wyau, staciwr wyau, robot paledau wyau, storfa wyau oer a chilfach llwytho wyau, wedi'u gweithredu gyda chymorth pŵer solar ar gysylltiad grid tri cham.

Bydd defnyddio cyfarpar prosesu wyau arbenigol yn sicrhau bod gofynion y farchnad yn cael eu bodloni, gan alluogi elw digonol a fydd yn hwyluso ehangu yn y dyfodol. Mae cynyddu cynaliadwyedd a chadernid ariannol DJW Beaumont yn y ffordd hon yn hollbwysig i gyflogaeth ac olyniaeth yn y busnes yn y dyfodol.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£177,533
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Daniel Beamond

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts