Cymdeithas Hanes Sir Benfro

Mae prosiect mynegai digidol y Journal wedi'i anelu at wneud y gwaith ymchwil hanesyddol sydd wedi'i gynnwys yn ein cylchgrawn blynyddol yn fwy hygyrch i haneswyr, ysgolion a'r cyhoedd sydd diddordeb. Byddai hyn yn golygu bod modd i'r rhai sy'n ymweld  'n gwefan chwilio'r cylchgronau gan ddefnyddio allwedd eiriau a thagiau i ddod o hyd i bwnc, lle neu berson y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.  Ar hyn o bryd, dim ond edrych ar fynegai y Cynnwys ar gyfer pob cylchgrawn sy'n bosib h.y. yn l teitl erthygl, ond mae hyn ymhell o fod yn fynegai iawn ac o gymharu, yn llawer llai o werth.   
 
Amcanion: 
 
 
 
 
1. Gwneud cynnwys y cylchgronau yn haws i'w defnyddio i'r defnyddiwr a enwyd uchod.  
2. Hyrwyddo'r cylchgrawn a thrwy hynny ddenu nifer o gyfraniadau o safon uchel.  Bydd y mynegai yn gwarantu bod gwaith unrhyw gyfrannwr yn parhau i fod ar gael i ddarllenwyr ac nad yw yn diflannu heb ei ddarllen. 
3. Creu hunaniaeth gref i'r Gymdeithas trwy'r wefan i ddenu mwy o aelodau. 
4. Darparu dolenni trwy'r wefan i grwpiau hanes lleol eraill a chyrff ymchwil megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Comisiwn Brenhinol, yr Archif Sirol ac eraill.  
5. Galluogi ceisiadau am aelodaeth trwy'r wefan.  
6. Galluogi'r Gymdeithas i gynhyrchu taflenni gwybodaeth am y mynegai a'i gweithgareddau i'w dosbarthu mewn lleoliadau addas.  
7. Dod 'r Gymdeithas i gysylltiad ag ystod eang o aelodau posibl a dosbarthu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o dreftadaeth Sir Benfro i gynulleidfa ehangach.  
8. Cynnig y cyfleuster i awduron lleol a chymdeithasau eraill a fyddai'n dymuno rhannu'r mynegai digidol ar gyfer eu gwaith eu hunain. 
 

 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£1,831
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Ann Sayar
Rhif Ffôn:
01348 811614
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.pembrokeshirehistoricalsociety.co.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts