Cymorth Lleoliadau Cymunedol Cynaliadwy

Nododd swyddogion Reach yr angen am y prosiect hwn ar sail y gwaith gyda grwpiau gwirfoddol yn rheoli lleoliadau cymunedol ledled y fwrdeistref yn y rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig gyfredol ac mewn rhaglenni blaenorol. Mae’r grwpiau a’r lleoliadau y maent yn eu cefnogi’n cynnwys canolfannau cymunedol, pafiliynau chwaraeon, lleoliadau treftadaeth ac ati.

Maent i gyd yn wynebu problemau tebyg ac mae llawer angen cymorth gyda:

  • Nodi rhanddeiliaid amrywiol sy’n defnyddio’r lleoliadau i ddarparu incwm.
  • Sefydlu cynlluniau marchnata a’u cynorthwyo i’w rhoi ar waith.
  • Cyfleoedd i rwydweithio gyda sefydliadau tebyg i rannu gwybodaeth, gan rannu gwasanaethau ac adnoddau o bosibl a nodi arbedion costau drwy brynu ynni, cyflenwadau a chynnal a chadw gyda’i gilydd.
  • Manteisio i’r eithaf ar eu potensial cyllid drwy edrych ar geisiadau cyllid gyda’i gilydd, e.e. ar gyfer gofalwr peripatetig, swyddog datblygu peripatetig, gwaith adeiladu cyfalaf.
  • Nodi hyfforddiant a gwybodaeth i helpu i fynd i’r afael â’u problemau.

Lluniwyd y prosiect Lleoliadau Cymunedol Cynaliadwy i ddarparu’r elfennau canlynol:

Elfen 1

Gweithio gyda grwpiau rheolwyr chwe canolfan gymunedol peilot i –

  • Nodi arbedion costau
  • Sefydlu rhanddeiliaid a chynyddu defnyddwyr
  • Cefnogi cynigion cyfalaf a chyllid refeniw
  • Sefydlu Cynlluniau Marchnata
  • Darparu hyfforddiant, gwybodaeth a chanllawiau ar bynciau perthnasol amrywiol

Elfen 2

  • Sefydlu Rhwydwaith o leoliadau cymunedol a lleoliadau chwaraeon yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Cefnogi’r Rhwydwaith gyda phwyntiau 1, 2, 3 a 5 uchod.
  • Aelodau’r rhwydwaith i nodi pa rai o’u cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad o gwbl at Swyddfa’r Post, banciau a/neu beiriannau ATM a gweithio gyda’r sefydliadau perthnasol i weld a ellir eu cyflenwi
  • Nodi ffyrdd o wella lleoliadau
  • Sefydlu cynaliadwyedd y Rhwydwaith

Elfen 3

  • Datblygu Pecyn Adnoddau Lleoliadau Cymunedol Cynaliadwy dwyieithog gyda chanllawiau, cysylltiadau, gwybodaeth a rhestri gwirio perthnasol i roi’r wybodaeth sydd ei hangen i helpu i fod yn gynaliadwy a sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth bresennol fel profion Legionella. Bydd y pecyn adnoddau ar ffurf debyg i’r Pecyn Adnoddau Trosglwyddo Asedau Cymunedol a ddatblygwyd yn flaenorol gyda chyllid Reach sy’n parhau i gael ei ddefnyddio’n eang a’i ddosbarthu i brosiectau CAT.
  • Comisiynwyd sefydliad i ddarparu’r prosiect wythnos cyn cyfnod clo cyntaf y pandemig ym mis Mawrth 2020. Gan nad oedd cymorth wyneb yn wyneb uniongyrchol, cefnogodd ymgynghorwyr ganolfannau gyda cheisiadau cyllid ar gyfer cronfeydd cymorth COVID a dechrau gwaith ar y Pecyn Adnoddau.

Daeth yn amlwg yn syth mai un o effeithiau uniongyrchol y pandemig oedd bod anghenion cymunedau wedi newid a bod tlodi bwyd yn broblem mewn sawl ardal. Arweiniodd trafodaethau gyda’r lleoliadau, rhanddeiliaid a FareShare Cymru at wireddu’r cyfle i’r lleoliadau cymunedol gefnogi eu cymunedau gyda thlodi bwyd a chynyddu cynaliadwyedd lleoliadau ar yr un pryd a oedd yn cyd-fynd â chylch gwaith gwreiddiol y prosiect.

Cyflawnwyd hyn drwy sefydlu ‘Pantrïoedd Cymunedol’ ym mhob lleoliad a oedd am gymryd rhan a lle’n bosibl cynnal y rhain law yn llaw â Chaffis Cymunedol lleoliadau. Byddai hyn yn galluogi rhanddeiliaid perthnasol i fod yn bresennol mewn lleoliad anffurfiol i gefnogi aelodau o’r gymuned a allai fod yn wynebu anawsterau gyda chymorth, cyngor a chyfeirio’n briodol at sefydliadau eraill. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys - cymdeithasau tai lleol, Cydlynwyr Cymunedol Lleol, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, tîm Cyflogadwyedd ac Undeb Credyd.

Sefydlwyd 12 pantri cymunedol ledled y fwrdeistref gyda mwy na 5400 bag o fwyd yn cael eu dosbarthu i’r gymuned yn cynnwys dros 48,000kg o fwyd.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£95,950
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2
19.3

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts