Bydd y prosiect yn dangos y manteision i gymunedau trwy gael ymdeimlad o falchder o ble maent yn byw. Bydd yn meithrin ysbryd cymunedol trwy annog aelodau'r gymuned i roi o'u hamser eu hunain ar gyfer gweithgareddau amrywiol i wella estheteg eu pentrefi.
Ar hyn o bryd, bydd Cadwch Gymru'n Daclus yn dod i'ch cymunedau i helpu i sefydlu grwpiau sydd eisiau gwneud gwahaniaeth lle maent yn byw. Maent yn hynod o lwyddiannus wrth ddod â phobl at ei gilydd.
Yn anffodus nid ydynt ond yn gallu benthyg yr offer i grwpiau, a chasglu unwaith y bydd sesiwn casglu sbwriel wedi'i chwblhau, sy'n golygu nad yw grwpiau'n cael eu cynnal a bod ymdrechion yn dod i ben.
Hoffai llawer o grwpiau weithredu'n fwy rheolaidd ond ni allant, oherwydd nad oes ganddynt yr offer.
Drwy ddarparu'r offer hwn a chyllid ychwanegol ar gyfer dodrefn stryd eraill, ein nod yw gwneud y gweithgareddau hyn yn gynaliadwy a gobeithio cynyddu cyfranogiad mewn gweithgareddau a grwpiau cymunedol.
Ein nod yw ymgysylltu â'n cymunedau drwy'r 28 o gynghorau cymuned a thref.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£14,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Meira Woosnam
- Rhif Ffôn:
-
01492 576672
- Cyfeiriad e-bost:
- meira.woosnam@conwy.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://ruralconwy.org.uk/rual-conwy-tidy-communities/?lang=en
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts