Cyngor i Fynd

Mae Cyngor i Fynd yn brosiect peilot ac yn ddull newydd o ddarparu'r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth mewn sir wledig, â phoblogaeth sydd wedi'i gwasgaru'n eang. Bydd yn profi dulliau newydd o weithredu’r gwasanaeth. (LD-CL.004).

Bydd Cyngor i Fynd (LD-CL007) yn gallu cofnodi nifer y rhanddeiliaid sy'n cymryd rhan ym mhob lleoliad.

Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Thema 3 – archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau anstatudol. Bydd y cyngor a roddir i bobl leol yn cefnogi ac yn datblygu gallu a chadernid yng nghymunedau gwledig Ceredigion yn enwedig ar adeg o gynnydd mewn costau byw a phrisiau ynni.

Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Strategaeth Datblygu Lleol Ceredigion o ran:

  • Bydd yn hysbysu Cyngor ar Bopeth Ceredigion ar ddatblygiad ei brosiect yn y dyfodol wrth ddarparu gwasanaethau i'r sir gyfan;
  • Ei fod yn brosiect peilot i'r elusen - profi a yw cyngor symudol yn fwy hygyrch i bobl leol na chael swyddfa sefydlog mewn un lleoliad. Bydd yn profi a fydd y dull hwn o ddarparu cyngor yn cyrraedd pobl cyn iddynt gael eu hunain mewn argyfwng gyda materion yn enwedig rheoli dyled ac incwm;
  • Bydd Cyngor i Fynd yn galluogi Cyngor ar Bopeth Ceredigion i feithrin ei gapasiti i ddarparu gwasanaethau cynghori i bob rhan o'r sir a darparu data ar gyfer ceisiadau grant mwy uchelgeisiol i gyllidwyr eraill.

Mae Cyngor ar Bopeth Ceredigion yn dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr. Bydd Cyngor i Fynd yn cynnig cyfleoedd allgymorth i wirfoddolwyr. Byddem hefyd yn gobeithio recriwtio gwirfoddolwyr lleol wrth godi ein proffil drwy sesiynau allgymorth lleol.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£6030.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Juliet Morris
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts