Cynhwysiant Digidol a Dysgu Digidol ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth (DIAL)

Cefnogi Pobl ag Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth (PWLD/A) i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol gan ddefnyddio ystod o weithgareddau i gefnogi dysgu a diogelwch. Datblygu ochr yn ochr â hyn rhaglen hyfforddi ynglŷn â diogelwch a hygyrchedd ar y rhyngrwyd y gellir ei chynnig i asiantaethau eraill megis ysgolion, grwpiau trydydd sector ayyb. Mae gennym dros 300 o aelodau yn ein cronfa ddata, ac rydym yn dod ar draws mwy o PWLD/A bob dydd, yn enwedig rhai sydd ag Awtistiaeth Gweithredu Lefel Uchel.

  1. Datblygu rhaglen hyfforddi ynglŷn â diogelwch ar y rhyngrwyd gyda gogwydd penodol Anabledd Dysgu/Awtistiaeth gan gynnwys rhannu gwybodaeth yn amhriodol ac yn esgeulus ar y cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd o ran defnyddio apiau ayyb. Byddem yn anelu at weithion ddiweddarach gydan haelodau i gynnig y rhaglen mewn lleoliadau eraill sydd â phobl sy’n agored i niwed. Rydym wedi gwneud hyn yn llwyddiannus gyda chodi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb mewn partneriaeth ag heddlu Dyfed Powys, gan greu gyda’n haelodau darnau pwerus o ddrama i’w cyflwyno mewn ysgolion, sefydliadau trydydd sector eraill ayyb. Gallai hyn roi ffynhonnell o incwm cynaliadwy i ni yn ogystal â chefnogi ein haelodau i gadwn ddiogel yn ddigidol.
  2. Rhedeg cyrsiau ar ddysgu digidol sylfaenol syn benodol i PWLD/A ynghylch sut i ddefnyddio ffonau symudol, sut i ddefnyddio e-bost, sut i gael mynediad at wybodaeth angenrheidiol. Gydar cynnydd mewn ffurflenni a gwybodaeth ar-lein, mae hyn yn dod yn rhan angenrheidiol on gwaith. Bydd cefnogaeth o ran llythrennedd yn cael ei darparu fel rhan o hyn.
  3. Cefnogi creu/datblygu gêm ar-lein gydan haelodau Clwb Gemau rheolaidd a fydd yn denu diddordeb aelodau presennol i ddatblygu sgiliau a hyder mewn amgylchedd sy’n galluogi mwy o bobl yn enwedig pobl gydag Awtistiaeth, i gael mynediad in sefydliad ac o ganlyniad gwasanaethau eraill, gan ehangu eu gorwelion a’u cyfleoedd. Gallair gêm hon hefyd gynnig ffynhonnell refeniw i Bobl yn Gyntaf Sir Benfro (PPF).
  4. Cynnig cyfleoedd i ferched yn unig i gael mynediad i Gemau o fewn y sefydliad. Rydym wedi cael adborth gan ferched syn mynd i’r Clwb Gemau eu bod yn teimlo bod yr awyrgylch yn fygythiol ac yn "wrywaidd". Mae llawer or gemau yn canolbwyntio ar ddynion ac yn gadael in haelodau benywaidd deimlo eu bod yn cael eu dieithrio a heb eu cynnwys. Mae cynnwys lle i Ferched yn Unig yn cynnig mynediad a chyfle cyfartal.
  5. Datblygu cyrsiau achrededig yn y Ganolfan Hyfforddi ar Godio, Creu Podlediadau a Datblygu Sianel YouTube.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£13,470
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Josie Coggins
Rhif Ffôn:
01437 769135
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.pembrokeshirepeople1st.org.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts