Cynhyrchwyr Dros Dro

Fel rhan o’r prosiect, fe fydd siop dros dro mewn lle gwag ym Mwcle ar gyfer cynnyrch lleol (bwyd ac eitemau eraill). Diben y cynllun prawf hwn ydy gwirio oes yna alw ym Mwcle am gynnyrch lleol ac a fyddai man gwerthu arbennig i gynhyrchwyr crefftus (o Ogledd Ddwyrain Cymru) yn denu mwy o gerddwyr yn y dref a lleihau cadwyni cyflenwi.

Bydd y prosiect yn canfod a oes cyfleoedd ar gyfer agor siop gwerthu cynnyrch crefftus parhaol. Bydd hefyd yn gyfle i fusnesau gasglu awgrymiadau ac adborth cwsmeriaid cyn ymrwymo i fod yn rhan o’r farchnad. Bydd y siop dros dro hefyd yn hyrwyddo ac arddangos dewis eang o gynnyrch i brynwyr lleol. Nod y prosiect fydd ceisio dod o hyd i ddulliau newydd o annog mwy o gerddwyr mewn tref cefn gwlad lle mae cadwyn genedlaethol wedi agor mewn un rhan ohoni. Mae’r ardal hon yn denu’r rhan fwyaf o’r cerddwyr ar hyn o bryd.  

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£4,666
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir y Fflint
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Donna Hughes
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://cadwynclwyd.co.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts