Cynllun Bws Gwennol Cymunedol Dyffryn Ogwen

Nod y prosiect yw rhedeg gwasanaeth bws gwennol trydan i dwristiaid er mwyn lleddfu problemau parcio mewn mannau poblogaidd yn Llyn Ogwen a hefyd darparu cludiant cymunedol i bobl leol gael mynediad i safleoedd ar gyfer cyflogaeth/trafnidiaeth prif ffrwd ar gyfer teithio ymlaen i waith neu hamdden. Pan nad yw'r Gwasanaeth Gwennol yn gweithredu at ddibenion twristiaeth, bydd y bws mini ar gael i'w ddefnyddio gan grwpiau cymunedol lleol (er enghraifft, gyda'r nos neu allan o'r tymor twristiaeth). 

Bydd Bws Gwennol Cymunedol Dyffryn Ogwen yn helpu pobl i gysylltu â gwasanaethau a chyfleusterau, i gyfleoedd addysgol, gwirfoddoli a chyflogaeth, ac i wasanaethau bysiau a rheilffyrdd ar gyfer teithio ymlaen ar gyfer gwaith neu hamdden. Bydd yn cefnogi'r economi ymwelwyr leol, gan ddarparu llwybrau twristiaeth rheolaidd i Lyn Ogwen, gan leihau'r angen i ymwelwyr yrru eu ceir eu hunain, ac annog arosiadau hirach. Bydd y bws mini hefyd yn adnodd amhrisiadwy i grwpiau cymunedol lleol, gan gynorthwyo gyda chydlyniant cymunedol yn yr ardal. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£223,184
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Cydweithio
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Partneriaeth Ogwen
Rhif Ffôn:
+441248602131
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.partneriaethogwen.cymru/en/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts